Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Dominic H

Dominic

Cyllid mynediad a chefnogaeth gyrfaoedd yn helpu Dominic i gael swydd yn ystod Covid-19.

Chwilio am waith

Fe wnaeth angerdd Dominic tuag at gynnig hyfforddiant a help i eraill danio ei awydd i ddechrau ei fusnes ei hun yn 2019, yn canolbwyntio ar hyfforddiant cymorth cyntaf. Fodd bynnag, oherwydd iddo ddechrau'r busnes ychydig cyn y cyfnod clo, ni chafodd gyfle i sefydlu llif rheolaidd o gwsmeriaid a gwaith. 

Meddai Dominic “Yn fuan iawn, roeddem mewn sefyllfa lle oeddem yn ennill ychydig iawn o incwm ac roeddem yn ei chael hi'n anodd iawn talu’r biliau. Roedd yn rhaid i ni wneud cais am gredyd cynhwysol, a sylweddolais fod angen i mi gael rhywfaint o gefnogaeth a chyngor cyflogadwyedd i ddarganfod beth oedd fy opsiynau."  

Roedd Dominic wedi bod yn y lluoedd arfog am flynyddoedd lawer. Gadawodd ym 1995 ac aeth ymlaen i weithio mewn amryw o rolau yn ymwneud yn bennaf â hyfforddiant/cefnogaeth gan gynnwys 12 mlynedd yn Nhîm Troseddu Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot nes iddo dderbyn cynnig diswyddo gwirfoddol yn 2013. Ers hynny, roedd Dominic yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i swydd dda a phenderfynodd ddod yn hunangyflogedig.  

Cael cymorth gan Cymru'n Gweithio

Cysylltodd Dominic â Gyrfa Cymru a chafodd ei roi mewn cysylltiad â Kim, cynghorydd gyrfa sy'n gweithio i wasanaeth Cymru'n Gweithio.

“Roedd Kim yn hawdd iawn siarad â hi a buan iawn y daeth hi i ddeall fy sefyllfa a rhoddodd gyngor i mi ar yr opsiynau a oedd ar gael. 

“Dywedais wrthi am fy angerdd tuag at hyfforddi a helpu eraill. Soniais fy mod hefyd yn cael cymorth gan elusen cyn-filwyr a oedd wedi fy nghyfeirio at Fwrdd Hyfforddi Prydain. Roedd y Bwrdd wedi cynnig uwchraddio fy nghymhwyster addysg a hyfforddiant lefel 3, ond byddai'n cost yn gysylltiedig â hynny, ac allwn i ddim fforddio talu amdano.

“Asesodd Kim y byddwn yn gallu cael cyllid ar gyfer y cwrs drwy’r Rhaglen Fynediad oherwydd yr ardal yr oeddwn yn byw ynddi a'm sefyllfa bresennol. Roedd hyn yn golygu y byddwn yn gallu dechrau'r hyfforddiant gan na fyddai'n golygu unrhyw gost i mi."

Cael swydd

Dechreuodd Dominic astudio ar gyfer y cymhwyster tra roedd hefyd yn gwneud cais am swyddi. Roedd un o'r swyddi y gwnaeth gais amdani yn swydd gyda The Family Foundation - elusen ddielw sy'n cefnogi pobl ledled Cymru.   

“Roeddwn i mor falch pan lwyddais i gael cyfweliad. Yn ystod y cyfweliad, eglurais fy mod yn cwblhau fy nghymhwyster addysg a hyfforddiant lefel 3. Roeddwn ar ben fy nigon pan gefais gynnig y swydd a chredaf fod y ffaith bod gen i’r cymhwyster uwch wedi fy helpu i'w chael hi.

“Rwy’n mwynhau fy swydd newydd yn fawr. Mae rhan ohoni'n cynnwys helpu pobl i gael gwaith - rhywbeth y gallaf uniaethu ag ef o ddifrif!"

Os ydych chi, fel Dominic, angen cymorth ar ôl colli eich swydd neu wybodaeth am y cronfeydd hyfforddi sydd ar gael i chi, edrychwch ar yr adran cymorth ar ôl colli swydd ne cysylltwch â ni.


Archwilio

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Cheryl

Cyngor wedi diswyddiad yn helpu Cheryl i fynd yn ôl i weithio.