Gall dod o hyd i swydd neu newid gyrfa fod yn heriol, ond mae Cymru’n Gweithio yma i helpu.
Rydyn ni’n deall eich bod chi’n unigryw. Dyna pam rydyn ni’n cynnig cyngor ac arweiniad gyrfaol sy’n benodol i chi a’ch amgylchiadau.
Gallwn helpu os ydych:
- Yn gadael yr ysgol neu wedi gadael yr ysgol neu fyd addysg yn ddiweddar
- Yn newid eich gyrfa
- Yn wynebu colli eich swydd neu wedi colli eich swydd yn ddiweddar
- Eisiau uwchsgilio
- Yn chwilio am swydd
- Yn dioddef o ddiffyg hyder ac eisiau magu hyder
- Angen help i greu eich CV neu help gyda thechnegau cyfweld
- Angen cefnogaeth ychwanegol i oresgyn rhwystrau i waith fel problemau iechyd neu anabledd
Cysylltwch â ni yn Cymru'n Gweithio er mwyn newid eich stori.
Mae rhaglen Cymru’n Gweithio yn cael ei chyflwyno gan Gyrfa Cymru ac mae hi’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Archwilio
Dogfennau cysylltiedig
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith