Mae'r dudalen hon yn nodi ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch data cwsmeriaid Cymru'n Gweithio a sut rydym yn ei brosesu. Mae'n egluro sut rydyn ni'n cydymffurfio â rheoliadau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut mae Gyrfa Cymru yn rheoli ac yn rhannu'r wybodaeth a gasglwn tra byddwch yn cymryd rhan yn rhaglen Cymru'n Gweithio. Bydd y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei hadolygu i gynnwys unrhyw newidiadau pellach a gaiff eu cyfleu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd fersiynau diwygiedig ar gael ar ein gwefan gyrfacymru.llyw.cymru.
Er mwyn cyflawni ein swyddogaeth statudol o ddarparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i oedolion dros 16 oed ar gyfres o raglenni Cymru’n Gweithio, mae'n angenrheidiol i Gyrfa Cymru gasglu a defnyddio (neu 'brosesu') data personol. Pwrpas yr hysbysiad hwn yw ein galluogi ni i fod yn agored ac yn onest ynglŷn â pham rydyn yn casglu eich data personol, a hefyd i nodi'r ffynonellau a'r math o ddata a dderbyniwn gan sefydliadau eraill a sut rydyn yn rhannu gwybodaeth am y data sydd gennym. Bydd hyn yn rhoi hyder bod y data personol sydd gennym yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd gywir a bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.
Rheolydd Data
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd sy'n masnachu fel Gyrfa Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol rydym yn ei brosesu. Rydym wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, rhif cofrestru: Z276256.
Diben
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio, yn casglu ac yn rhannu'r data sydd gennym fel cwmni. Mae'r hysbysiad hwn yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
1. Pam rydym yn prosesu'r data personol.
Pwrpas prosesu data personol yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i bobl ifanc ac oedolion sy'n cyrchu Gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Cefndir Cymru'n Gweithio
Mae Cymru'n Gweithio yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a luniwyd i ddarparu cymorth cyflogadwyedd symlach ac effeithlon sy'n ymateb i anghenion unigolyn. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth gan gynnwys mynediad at hyfforddiant, uwchsgilio, cyllid, a chymorth gydag ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu fel porth am ddim i gymorth cyflogaeth wedi'i deilwra sydd ar gael i unrhyw un 16 oed neu hŷn ac sy'n byw yng Nghymru. Yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad uniongyrchol diduedd ar yrfaoedd, gall cynghorwyr gyrfaoedd Cymru'n Gweithio nodi anghenion unigolyn a'u cyfeirio at wasanaethau a rhaglenni addas eraill, o ystyried eu gwybodaeth helaeth am y cymorth sydd ar gael yn lleol a chenedlaethol. O ganlyniad, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio yn gallu ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau cymorth gyrfaoedd i gymunedau a helpu pobl ar draws ystod ehangach o anghenion a sefyllfaoedd yn y farchnad lafur.
Mae'r gwasanaeth yn galluogi unigolion, drwy asesiad sy'n seiliedig ar anghenion, i siarad â chynghorwyr gyrfaoedd achrededig am gyflogaeth a sgiliau, eu nodau a'u dyheadau, ac unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael a chynnal gwaith, addysg neu hyfforddiant neu ddatblygu eu gyrfa.
Caiff cymorth cyflogadwyedd ei ddarparu gan hyfforddwyr cyflogadwyedd Cymru'n Gweithio, gan gynorthwyo cwsmeriaid i chwilio am swyddi, gwneud ceisiadau, a pharatoi at gyfweliadau.
Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.
Mae ein gwasanaeth yn cynnwys y rhaglenni canlynol:
- Twf Swyddi Cymru+
- Cyfrifon Dysgu Personol
- React+
- Cymunedau am Waith a Mwy
2. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol
PTasg Gyhoeddus, Erthygl 6(1) (e) 9(2)(a) a 9(2)(j) – mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg sy'n cael ei chyflawni er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi ei freinio yn y rheolydd. Rydym yn derbyn Erthygl 10 gan ddefnyddio'r model cydsynio.
Angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol, Erthygl 9(2)(g)
Atodlen 1, Rhan 2, Paragraff 6 Dibenion statudol, dibenion y llywodraeth ac ati
Mae'r Amod hwn yn cael ei fodloni os yw'r prosesu:
- Yn angenrheidiol at ddiben a restrir yn is-baragraff (2)
- Yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol
Y dibenion hynny yw:
- Arfer swyddogaeth a roddir i berson gan ddeddfiad neu reol y gyfraith
- Arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth
Mae'r ddeddfwriaeth ganlynol yn darparu'r pwerau sy'n caniatáu i Gyrfa Cymru ymgymryd â darpariaeth Cymru'n Gweithio.
- Llythyr cylch gwaith Tymor Llywodraethu CCDG, wedi'i seilio ar Erthyglau Cymdeithasu a Dogfen Fframwaith CCDG
- O dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002, caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth ariannol, neu wneud trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol, i unrhyw berson ar gyfer darparu addysg neu'n gysylltiedig â hynny (sy'n cynnwys paratoi pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth yn gyffredinol)
- Adran 10 o Ddeddf Addysg 1996
- Adran 14 o Ddeddf Addysg 2002
- Adrannau 31-35 o'r Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000
- Adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973
- Adrannau 60, 61, 70 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
3. Gan bwy ac o ble rydym yn cael y data personol
Efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol gan y sefydliadau canlynol, nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau – Twf Swyddi ynghyd â dechreuwyr
- Data’r Adran Gwaith a Phensiynau ar hawlwyr credyd cynhwysol 16-24 oed ar gyfer y warant i bobl ifanc
- Gwasanaeth Prawf – gwneud cyfeiriadau i Gymru'n Gweithio
- Llywodraeth Cymru
- Darparwyr Hyfforddiant
- Awdurdod Lleol
- Darparwyr gwasanaethau cyflogaeth Trydydd Sector
- Gwasanaeth Carchardai
- Gwasanaethau ieuenctid
- Addysg Bellach
4. Y Categorïau o ddata personol rydym yn eu prosesu
Rydym yn prosesu'r categorïau canlynol o ddata sy'n ymwneud â Rhaglenni Cymru'n Gweithio.
- Mae Data Adnabod yn cynnwys enw cyntaf, cyfenw, teitl, dyddiad geni, rhywedd, rhif yswiriant gwladol, prawf o wybodaeth adnabod fel trwydded yrru, pasbort
- Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad cartref, cyfeiriad cyswllt dros dro, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
- Mae Data Addysg a Gyrfaoedd yn cynnwys manylion am eich statws (er enghraifft, p'un a ydych yn yr ysgol, coleg neu mewn cyflogaeth neu'n chwilio am waith ac a ydych mewn perygl o ddod yn NEET (nid mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant)), manylion yr ysgol neu'r coleg rydych yn ei fynychu / wedi’i fynychu, manylion unrhyw gyflogwr sydd gennych, manylion unrhyw gymwysterau sydd gennych neu rydych yn gweithio tuag atynt, gwybodaeth am ddileu swydd. Y pethau sy'n eich rhwystro rhag mynd i mewn i gyflogaeth.
- Mae Data Cyllid yn cynnwys manylion unrhyw gyllid neu gymorth arall y gallech fod wedi'i gael, fel unrhyw gynlluniau lleoliad gwaith rydych wedi cymryd rhan ynddynt a / neu unrhyw fudd-daliadau rydych wedi'u derbyn
- Mae Data Categori Arbennig yn cynnwys manylion eich hil neu ethnigrwydd, manylion am unrhyw grefydd sydd gennych, gwybodaeth am unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gennych, gwybodaeth am unrhyw anabledd sydd gennych, gwybodaeth am unrhyw euogfarnau troseddol neu droseddau sydd gennych
5. Gyda phwy rydym yn rhannu data personol
Rydym yn rhannu data personol gyda nifer o sefydliadau allweddol i gyflawni ein swyddogaethau statudol. Dylid nodi nad yw'r holl ddata personol a amlinellir uchod yn cael ei rannu â phob sefydliad. Dim ond gwybodaeth berthnasol sy'n cael ei rhannu mewn perthynas â'r diben.
ReAct+
Mae ReAct+ yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'r rhai sy'n ceisio ailymuno â'r farchnad lafur drwy gael gwared ar rwystrau a darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, costau teithio a gofal (gan gynnwys gofal plant) sy'n gysylltiedig â hyfforddiant. Rhaglen wirfoddol yw hon ac ni ellir gorfodi cwsmeriaid i gymryd rhan. Mae hwn yn rhyngweithiad rhwng y cwsmer a Llywodraeth Cymru, ac felly Llywodraeth Cymru yw rheolydd y wybodaeth.
Os asesir bod cwsmer yn gymwys ac yn addas i wneud cais am grant ReAct+, bydd Gyrfa Cymru (a Cymru'n Gweithio) yn gweithredu fel hwylusydd i rannu data ar ran y cwsmer naill ai trwy'r porth neu drwy Objective Connect, ond gwneir hyn gyda chaniatâd y cwsmer bob amser.
Efallai y bydd Gyrfa Cymru’n derbyn gwybodaeth yn ôl gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ceisiadau cwsmeriaid am gyllid ReAct. Bydd Gyrfa Cymru’n dod yn rheolydd y data hwn.
Gallai'r meysydd a rennir rhwng Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cymru gynnwys:
- Enw
- Rhif React
- P'un a yw'r grant wedi bod yn llwyddiannus
- Swm y dyfarniad grant
- Dyddiad cymeradwyo
- Manylion y cwrs a'r darparwr
Twf Swyddi Cymru+
Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru. Rhaglen yw hi i ddysgu'r sgiliau y byddwch eu hangen i gael swydd neu i symud ymlaen at ddysgu pellach yn y dyfodol. Byddwch yn cael lwfans ar Ymgysylltu a Hyrwyddo Twf Swyddi Cymru+, a chyflog os ydych ar Gyflogaeth Twf Swyddi Cymru+.
Yn dilyn cyfarfodydd gyda'r cynghorydd gyrfaoedd rydym yn cwblhau Adroddiad Asesu a Chyfeirio sy'n ganlyniad y broses gyfarwyddyd, materion sy'n gysylltiedig ag iechyd, rhwystrau a chynlluniau y maent yn gwneud cais amdanynt. Yna caiff yr adroddiad ei anfon at ddarparwr hyfforddiant ar restr darparwyr Twf Swyddi Cymru.
Anfonir at y prif gontractwyr canlynol yn unig:
- Act
- Coleg Cambria
- Grwp LLandrillo Menai
- ITEC
- Coleg Sir Benfro
Gwybodaeth a rennir yn dilyn caniatâd yr unigolyn gyda'r darparwr hyfforddiant:
- Teitl
- Cyfenw
- Enw(au) cyntaf
- Cyfeiriad
- Cod post
- Rhif Ffôn Cartref
- Rhif Ffôn Symudol
- Cyfeiriad E-bost
- Dyddiad Geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Perthynas Agosaf
- Rhif Cyswllt Perthynas Agosaf
- Rhywedd
- Ethnigrwydd
- Cenedligrwydd
- Iaith gyfathrebu ddewisol
- Statws Cyfredol - Sylwch na all cyfranogwyr Twf Swyddi Cymru+ fod mewn Addysg, Cyflogaeth am fwy na 15 awr yr wythnos na'n gwneud Hyfforddiant ar adeg dechrau'r rhaglen
- Gwybodaeth gefndir am gyflogaeth
- Dyheadau gyrfa
- Cymwysterau, addysg
- Rhwystrau sy'n wynebu'r cwsmer
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf er mwyn sicrhau y gall troseddwyr wneud y canlynol:
- Gwella eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu ac o’r farchnad lafur
- Nodi a dileu unrhyw ffactorau sy’n eu rhwystro rhag cael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant
- Gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau cyflogaeth yn y dyfodol
- Cymhwyso sgiliau rheoli gyrfa a chyflogadwyedd er mwyn eu galluogi i gael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant a dal ati gyda'r rhain
Mae gan bob carchar gynghorydd gyrfaoedd penodol sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn ystad y carchardai. Mae aelod o staff y carchar yn cyfeirio unigolyn sydd wedi gwneud cais am ein gwasanaethau i'n gwasanaeth gyrfaoedd. Rydym yn rhannu manylion y rhyngweithio â'r tîm carchardai a all gynnwys cynlluniau gyrfa ac o bosibl unrhyw faterion diogelu, mae'r unigolyn yn cael gwybod bod y data hwn yn cael ei rannu. Efallai y byddwn yn cysylltu â'r swyddfa brawf hefyd os yw'r unigolyn yn cydsynio i ddarparu cymorth cyflogadwyedd pellach pan fydd wedi gadael ystad y carchar.
Gwasanaeth Prawf
Rydym yn derbyn cyfeiriadau gan y gwasanaeth prawf. Cyn cyfeirio, mae'r unigolyn yn rhoi ei gydsyniad i'r gwasanaeth prawf rannu gwybodaeth am droseddu, risg a gwybodaeth bersonol at ddibenion fy helpu gyda chyflogaeth, hyfforddiant ac addysg. Maent yn rhoi caniatâd i Gyrfa Cymru rannu gwybodaeth â'r Gwasanaeth Prawf hefyd. Bydd hyn yn cynnwys:
- Enw
- Dyddiad y Cyfweliad
- Presenoldeb
- Canlyniad y Cyfweliad
- P'un a oes cyfweliad dilynol wedi'i drefnu
- Canlyniad (h.y. Cyflogaeth, Addysg, Hyfforddiant, Gwaith Gwirfoddol ac ati.)
Mae cytundeb rhannu data ar waith rhwng y gwasanaeth Prawf a Gyrfa Cymru sy'n ymdrin â rhannu'r data.
Pan fydd cwsmer yn hunangyfeirio ac ar brawf, byddwn yn gofyn am gydsyniad i drafod ei fanylion gyda'i swyddog prawf. Os codir mater diogelu, er y byddwn yn ymdrechu i ofyn am eich cydsyniad, efallai y bydd achlysuron lle byddwn yn gofyn am gyngor gan y gwasanaeth prawf heb eich caniatâd lle bo hynny'n briodol.
Cyfeiriadau at Raglenni Cyflogadwyedd
Rydym yn cyfeirio at gymuned ar gyfer gwaith a mwy neu gorff brysbennu a fydd yn pennu'r ddarpariaeth orau - ar ôl cael cydsyniad yr unigolyn. Maent yn darparu pecyn cymorth cyflogadwyedd yn y gymuned i'r rhai sy'n 20 oed neu'n hŷn. Mae'r rhaglen fentora ddwys hon yn helpu'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn rhwystrau i ddod yn fwy cyflogadwy.
Bydd mentor penodedig yn darparu pecyn cymorth wedi'i deilwra i unigolion, gan fynd i'r afael â materion a rhwystrau i helpu i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Efallai hefyd y byddwn yn cyfeirio at ddarparwyr cyflogadwyedd eraill gyda chydsyniad yr unigolyn.
Data a Rennir:
- Teitl
- Cyfenw
- Enw(au) cyntaf
- Cyfeiriad
- Cod post
- Rhif Ffôn Symudol
- Cyfeiriad E-bost
- Dyddiad Geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Statws Cyflogaeth
- Statws Cyflogaeth
- Hanes Cyflogaeth
- Unrhyw Anghenion Cymorth
Cyfeiriadau Canolfan Byd Gwaith
Rydym yn cydweithio'n agos â'r Ganolfan Waith i helpu pobl i ddod o hyd i'r cyfleoedd gwaith mwyaf addas i unigolion sy'n cael eu cyfeirio atom. Wrth gysylltu â'r ganolfan waith, byddwn yn rhannu'r wybodaeth ganlynol:
- Sgiliau presennol (yn gysylltiedig â chyflogaeth/hyfforddiant blaenorol)
- Bylchau mewn sgiliau sy'n gysylltiedig â dyheadau gyrfa
- Rhwystrau a nodwyd (e.e. cyllid, llythrennedd, rhifedd, rhiant sengl, allgau digidol, cludiant, digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac ati.)
- Angen camau i fynd i'r afael â rhwystrau
Ymchwil a Gwerthuso
At ddibenion ymchwil, gwerthuso ac archwilio, dim ond at ddibenion penodol ac am gyfnod cyfyngedig yn unig y byddwn yn darparu data, rhaid i'r sefydliad gadarnhau ei fod wedi dinistrio'r data ar ôl y cyfnod cyfyngedig hwnnw. At ddibenion ymchwil yn ehangach nag addysg, byddwn yn defnyddio technegau sy'n sicrhau bod y data'n ddienw cyn i unrhyw ymchwil ddigwydd. Mae rhannu data dienw y tu allan i gwmpas y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data.
6. Sut Rydym yn Cadw Eich Data Personol yn Ddiogel?
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i'ch data personol i'r gweithwyr hynny sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau y bydd ein gweithwyr yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd o gyfrinachedd. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am achos o’r fath lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
7. Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Dim ond cyhyd ag y bo'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion ar gyfer ei gasglu y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y wybodaeth bersonol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol heb awdurdod, at ba ddibenion rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Mae manylion y cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ofyn amdano gennym trwy gysylltu â'n tîm preifatrwydd data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir uchod. Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn anonymeiddio eich data personol (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac os felly gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi.
8. Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi. Yn benodol mae gennych yr hawl:
- I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- I ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. www.ico.gov.uk
9. Rhagor o Wybodaeth
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Gyrfa Cymru mewn perthynas â materion diogelu data, drwy'r post yn: Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH, neu E-bostiwch: personal.data@careerswales.gov.wales.