Cysylltwch â ni. Trefnwch apwyntiad, ffoniwch, sgwrsio gyda ni ar-lein, e-bostiwch neu dewch o hyd i'ch canolfan yrfaoedd agosaf.
Sgwrs ar-lein
Siaradwch â ni sgwrsio ar-lein. Fe welwch yr opsiwn 'sgwrsio nawr' ar bob tudalen o'n gwefan.
Rydym ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm, dydd Gwener: 9am i 4:30pm.
Os nad yw sgwrs ar-lein yn dangos
Trefnu apwyntiad
Trefnwch apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa neu anogydd cyflogadwyedd.
Byddwch yn gallu trefnu apwyntiad hyd at 2 wythnos ymlaen llaw.
E-bost
E-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru neu llenwch y ffurflen cysylltu â ni a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith drwy e-bost.
Ein canolfannau
Dewch o hyd i'n Canolfannau Gyrfa ledled Cymru.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad gyrfaoedd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru. Dewch o hyd i'ch lleoliad cymunedol agosaf.
Ffôn
Ffoniwch ni am ddim ar 0800 028 4844.
Cwblhewch ein ffurflen galwad yn ôl os byddai'n well gennych i ni eich ffonio. Gallwch ddewis slot amser a bydd anogydd cyflogadwyedd yn eich ffonio chi.
Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm a dydd Gwener: 9am i 4:30pm.
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ein ffonio
Pan fyddwch chi'n ein ffonio byddwch yn derbyn 2 opsiwn.
1. Ar gyfer cymorth gyrfaoedd neu apwyntiadau
Pwyswch opsiwn 1 pan ofynnir i siarad â'n hanogwyr cyflogadwyedd. Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y gefnogaeth gywir. Gallwn eich helpu gyda:
- Chwilio am swyddi
- Adolygu eich CV
- Technegau cyfweld
- Dod o hyd i gyrsiau
2. I newid apwyntiadau ac ymholiadau cyffredinol
Pwyswch opsiwn 2 pan ofynnir i newid apwyntiad, neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â gyrfaoedd. Gallwn eich helpu gyda:
- Newid neu ganslo apwyntiad sy'n bodoli eisoes
- Ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych am ein gwasanaethau a'n swyddfeydd
Iaith Arwyddion Prydain
Mewn partneriaeth â SignVideo, mae Gyrfa Cymru yn falch o fod yn hygyrch i'r gymuned fyddar a BSL.
Iaith Arwyddion Prydain - SignVideo
Sut i ddefnyddio SignVideo i gysylltu â ni am drafodaeth gychwynnol.
Gweld trawsgrifiad SignVideo (Word, 25KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais).