Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Kieran

Hospitality trainee, Kieran, standing in the restaurant dining area

Mae Kieran wedi dod o hyd i yrfa mae’n ei fwynhau ac mae’n hyfforddi i fod yn rheolwr bwytai.

Troi at Twf Swyddi Cymru+

Roedd Kieran, sy’n 18 oed ac o Lanfyrnach, yn awyddus i ddechrau gweithio cyn gynted ag y gadawodd yr ysgol. Cafodd ei gyfeirio at Twf Swyddi Cymru+, ac ers hynny mae wedi ffynnu.

Eglurodd Kieran: “Es i i’r ysgol a sefyll fy arholiadau Safon Uwch, ond rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn ennill arian ers pan oeddwn i’n ifanc.”

“Fe wnes i adael addysg ychydig yn gynharach na’r disgwyl ac roeddwn i’n chwilio am waith ym maes lletygarwch. Dyna pryd y gwnes i ddod ar draws rhaglen Twf Swyddi Cymru+, ac roeddwn i’n hoffi’r syniad o ddysgu wrth weithio. Dechreuais fy rôl ym maes cyflogaeth yn Roadhouse Whitland Ltd. ym mis Ionawr eleni.”

“Mae Twf Swyddi Cymru+ yn wych oherwydd gallwch chi ennill arian a chael annibyniaeth wrth hyfforddi ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd wedi helpu i dynnu’r pwysau oddi arna i er mwyn i mi allu dysgu ar fy nghyflymder fy hun.”

Gweithio ym maes Lletygarwch

Roedd Kieran yn gallu nodi ei gryfderau a’u cysoni â’r nodweddion sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant lletygarwch.

Dywedodd Kieran: “Fe wnes i ddewis y diwydiant lletygarwch oherwydd fy mod i wir yn mwynhau gweithio gyda phobl, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n addas iawn ar gyfer fy mhersonoliaeth.

“Fy hoff beth am weithio yn Roadhouse a bod ar raglen Twf Swyddi Cymru+ yw fy mod i’n cael gwneud rhywfaint o bopeth. Rhai dyddiau byddaf yn gweithio y tu ôl i’r bar, ar ddiwrnodau eraill byddaf yn siarad â chwsmeriaid, yn cymryd archebion ac yn gweini bwyd.

“Mae fy swydd yn amrywiol iawn, a dydw i erioed wedi teimlo’n gaeth mewn un rôl benodol. Mae hefyd wedi golygu fy mod wedi gallu cael profiad ymarferol mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd gwaith.”

Datblygu ei hyder

Mae’r amrywiaeth o gyfrifoldebau wedi helpu Kieran i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.

“Mae cael y cyfrifoldeb o gyfrifo’r arian yn y tiliau a chau’r adeilad wedi bod yn brofiad newydd i mi. Mae gwybod bod eraill yn ymddiried ynof i ysgwyddo’r mathau hyn o gyfrifoldebau yn rhoi llawer o hyder i mi fy hun ac yn fy annog i wneud fy ngorau.”

“Mae pawb yma yn gefnogol iawn, ac mae gan bob un ohonom berthynas waith wych. Mae’n teimlo fy mod i wedi bod yma ers blynyddoedd yn barod oherwydd y perthnasoedd gwaith rydw i wedi’i gwneud.”

Y camau nesaf

Ar hyn o bryd mae Kieran yn hyfforddi i fod yn rheolwr ym mwyty Roadhouse.

Wrth siarad am ei gamau nesaf, ychwanegodd: “Rydw i wrth fy modd yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac rydw i’n mwynhau datblygu yn fy rôl newydd ar yr un pryd ag ennill cyflog.

“Dydw i ddim yn hollol siŵr lle byddwn i’n hoffi bod ymhen pum mlynedd, ond bob dydd rydw i’n dysgu rhywbeth newydd am y diwydiant ac amdana i fy hun ac mae hynny wedi bod yn fuddiol iawn!”

Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi rhoi amser i mi feddwl am fy nyfodol a gwneud penderfyniadau pwysig ar sail fy mhrofiadau. Dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi rhuthro i unrhyw beth fel mae llawer o bobl ifanc fy oedran i. Yn lle hynny, rydw i’n teimlo’n lwcus iawn ac rwy’n edrych ymlaen yn ofnadwy at y dyfodol.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.