Am ennill arian, bod yn annibynnol a chael dy droed ar yr ysgol yrfa?
Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.
Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gennych fynediad hefyd at hyfforddiant a lleoliadau gwaith am ddim.
Beth yw Twf Swyddi Cymru+?
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i llunio o dy gwmpas di. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn opsiwn da os wyt ti am gael rhywfaint o help neu ragor o gefnogaeth.
Beth yw manteision Twf Swyddi Cymru+?
Gyda Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu:
- Rhoi cynnig ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti drwy dreialon a lleoliadau gwaith
- Cael dy dalu gyda lwfansau hyfforddiant wythnosol tra’n dysgu a chyflog go iawn pan fyddi di’n cael dy gyflogi
- Derbyn cyngor ac arweiniad parhaus a hyfforddiant un i un er mwyn dy helpu i gyrraedd dy nodau
- Magu dy hyder wrth i ti ddatblygu dy sgiliau a’th brofiad
- Hyfforddi ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i hybu dy opsiynau gyrfa
Pwy all wneud cais am Twf Swyddi Cymru+?
Gelli di wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ os wyt ti:
- Rhwng 16 ac 19 oed; ac
- Yn byw yng Nghymru, a
- Ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth neu hyfforddiant
Rhaid i’n cyngoryddion Cymru’n Gweithio hefyd eich asesu fel rhywun sydd angen cymorth sydd ar gael trwy un o elfennau rhaglen Twf Swyddi Cymru+.
Cymorth ar gael drwy Twf Swyddi Cymru+
Dyma'r elfennau cymorth sydd ar gael drwy Twf Swyddi Cymru+:
Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rwyt ti am ei ddilyn? Gall yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ dy helpu i benderfynu.
Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.
Cysylltwch â ni i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+
Byddwn yn siarad â chi am eich nodau, ac os yw Twf Swyddi Cymru+ yn addas i chi, byddwn yn eich cyfeirio at y rhaglen.
Cysylltwch dros y ffôn, e-bost, neu sgwrs ar-lein:
Gallwch hefyd ofyn i ni ffonio chi nôl pan mae'n gyfleus i chi.
Archwilio
Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Cewch eich ysbrydoli
Daeth Darla o hyd i’w hyder a’i swydd ddelfrydol drwy Twf Swyddi Cymru+.
Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.