Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rwyt ti am ei ddilyn?
Bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae hefyd yn lle da i ddechrau os wyt ti angen rhagor o gymorth i gymryd rhan mewn cyflogaeth ac addysg.
Mae’n rhoi’r cyfle i ti gael blas ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti cyn i ti ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Bydd hefyd yn dy helpu i fod yn barod a symud ymlaen i’r byd gwaith.
Beth sy’n digwydd ar elfen Ymgysylltu Twf Swyddi Cymru+?
Byddi di’n cytuno ar dy Gynllun Dysgu Unigol gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau hyfforddi a datblygu sy’n benodol i ti.
Gallai gweithgareddau gynnwys pob un neu gyfuniad o’r canlynol:
- Cyfleoedd dysgu mewn canolfan gyda dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+
- Treialon gwaith byr gydag un cyflogwr neu fwy
- Lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr lleol a all bara hyd at 4 wythnos ar y tro
- Prosiectau cymunedol
- Gwaith gwirfoddol
Bydd dy gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith yn adlewyrchu dy ddiddordebau, a byddi di’n cael y cyfle i gael blas ar bob math o weithgareddau sy’n adlewyrchu swyddi go iawn.
Bydd dy ddarparwr Twf Swyddi Cymru+ yn dy gefnogi i sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnat ti.
Faint fyddi di’n cael dy dalu?
Yn yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu derbyn lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos.
Does dim isafswm oriau presenoldeb yr wythnos. Fodd bynnag, bydd y lwfans hyfforddiant llawn o £60 ond yn cael ei dalu os wyt ti’n mynychu 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod. Bydd swm y lwfans hyfforddiant y byddi di’n ei dderbyn yn dibynnu ar nifer dy oriau.
Pan fyddi di ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddi di hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb iddo effeithio ar dy lwfans hyfforddiant.
Cymorth ychwanegol
I’r rhai sydd ei angen, mae cymorth ariannol a phersonol ychwanegol ar gael i dy helpu i gwblhau dy raglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd meini prawf cymhwyster yn gymwys, a bydd ein cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn trafod dy amgylchiadau wrth iddyn nhw asesu dy anghenion.
Gwyliwch y fideo
Rhagor o wybodaeth
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.
Angen rhywfaint o gymorth i gael gwaith? Bydd yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ yn dy helpu gyda hynny.