Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Owen

Owen

Aeth Owen o deimlo ei fod yn cael ei adael ar ôl yn y coleg i gymryd camau tuag at lwyddiant yn y brifysgol.

Blynyddoedd coleg

Mae stori Owen yn dechrau yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, lle'r oedd yn astudio teithio a thwristiaeth.

Wrth fyfyrio ar yr amser hwn, dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy nghyfyngu gan nad oedd gennyf arian, gwaith na chyfleoedd ac roeddwn yn teimlo bod fy ffrindiau gam neu ddau o fy mlaen.”

Ar ôl rhannu ei bryderon â'i ddarlithwyr, cafodd Owen wybod am Gyrfa Cymru.

Cymorth gyrfa

Mynychodd Owen weithdy grŵp a gynhaliwyd gan Gyrfa Cymru yn ei goleg. Yna cafodd ei baru â chynghorydd gyrfa Cymru'n Gweithio, Lara Bagagiolo, am gymorth unigol.

Yn ystod sesiynau un i un wythnosol, tywysodd Lara Owen i archwilio llwybrau gyrfa posibl. Buont yn edrych ar ei sgiliau a'i ddiddordebau, yn ogystal â'r camau nesaf addas iddo.

Gyda chymorth CV a gwneud cais am swydd, llwyddodd Owen i gael cyflogaeth yn B&Q. Galluogodd hyn iddo gynilo arian a pharhau i archwilio'r hyn yr oedd am ei wneud yn yr hirdymor.

Parhaodd Lara ac Owen i gyfarfod yn fisol, lle rhoddodd Lara gymorth i Owen wrth wneud y penderfyniadau a arweiniodd at ei daith prifysgol.

Barod ar gyfer y brifysgol

Ar ôl penderfynu ei fod am ennill cymhwyster rheoli digwyddiadau, roedd gan Owen benderfyniad anodd i'w wneud ynghylch ble roedd am astudio.

Gyda chymorth Lara, roedd gan Owen y dewrder a’r uchelgais i adleoli a chofrestru ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban.

Fel myfyriwr presennol yn y brifysgol, mae Owen yn myfyrio’n gadarnhaol ar y cymorth a gafodd gan Gyrfa Cymru: “Rhoddodd fy sesiynau gyda Lara gymaint o fewnwelediad i mi o’r hyn y gallwn ei wneud a sut y gallwn i gyrraedd yno.

“Roedd fy meddwl mewn miliwn o ddarnau o’r blaen, ond roedd yn rhyddhad enfawr cael cymorth wrth edrych ar fy nyfodol.

“Dydw i ddim yn gwybod ble byddwn i hebddi hi a gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

“Rwy’n dal i elwa ar wasanaethau Gyrfa Cymru nawr. Rwy'n defnyddio'r wefan i edrych ar opsiynau swyddi a'r holiaduron i ddarganfod fy nghamau nesaf ymlaen o'r fan hon. Mae’n helpu i ddod â fi yn ôl i ffocws.”

Mae Owen nawr yn edrych ymlaen at gael swydd ym mis Medi ym maes rheoli digwyddiadau fel rhan o'i radd.


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.