Mae Amy yn benderfynol o ddechrau gyrfa ym maes gofal plant.
Goresgyn rhwystrau
Cafodd Amy, 19, o Fargoed, ddiagnosis o nam ar ei golwg pan oedd yn saith oed ond nid yw erioed wedi gadael i’w hanabledd ei dal yn ôl.
Ymunodd â Twf Swyddi Cymru+ ar yr elfen Ymgysylltu, ond symudodd ymlaen yn gyflym i’r elfen Datblygu ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1.
Dywedodd Amy: “Cyn Twf Swyddi Cymru+, es i i’r ysgol, ond oherwydd fy mod i’n rhannol ddall, rwy’n cael llawer o gur pen ac roeddwn i’n cael trafferth canolbwyntio. Fe wnaeth fy mam fy helpu i edrych ar wahanol opsiynau ac fe wnaethon ni drefnu cyfarfod gyda Cymru’n Gweithio, ac fe wnaethon nhw awgrymu Twf Swyddi Cymru+.
“Rhoddodd y rhaglen gyllid i mi gael gliniadur personol ac fe wnaeth tiwtoriaid fy nghwrs lwytho meddalwedd i lawr sy’n gwneud testun ar y sgrin yn fwy i mi. Mae’r ffordd hon o ddysgu wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae wedi golygu fy mod i wedi gallu cwblhau llawer o’r cyrsiau ar-lein yn llawer cyflymach nag y byddwn i wedi’i wneud o’r blaen.”
Cyrraedd uchelfannau newydd
Oherwydd ei gwaith caled a’i phenderfyniad, llwyddodd Amy i ennill cymhwyster Cyflogadwyedd Lefel 1 a chafodd brofiad gwaith gyda nifer o gwmnïau gan gynnwys Canolfan Chwarae Jelly Totz a Meithrinfa Sweet Peas.
Dywedodd Amy: “Fe wnaeth y cwrs cyntaf y gwnes i ei astudio gyda Twf Swyddi Cymru+ fy nysgu sut i ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliad ar gyfer swyddi, ac ar ôl hynny, roeddwn i’n awyddus i ennill profiad mewn amgylchedd gwaith.
“Jelly Totz oedd fy lleoliad cyntaf, ac roedd hyn wedi helpu i roi hwb i fy hyder wrth gwrdd â phobl newydd. Yna gweithiais ym Meithrinfa Sweet Peas lle roeddwn i wir yn mwynhau chwarae gyda phlant a chymryd rhan yn eu dysgu.”
Bu Amy hyd yn oed yn edrych ar leoliadau y tu allan i Ofal Plant drwy weithio mewn siop elusen ar gyfer Sight Cymru a chaffi Plaza yn y Coed-duon i ddatblygu ei sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid.
Ychwanegodd Amy: “Yn ystod y lleoliadau hyn, bues i’n tacluso a siarad â chwsmeriaid a chael cyfrifoldeb dros rai mannau arddangos. Roedd y ddau brofiad yn wych oherwydd fy hoff bwnc yn yr ysgol oedd celf ac roedd y rhaglen a’r lleoliadau’n ymgorffori hyn yn fy nysgu drwy ganiatáu i mi ddylunio taflenni a phosteri.”
Edrych tua’r dyfodol
Wrth symud ymlaen, mae bryd Amy ar ddilyn gyrfa yn y diwydiant gofal plant.
Dywedodd: “Rydw i bob amser wedi gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes gofal plant. Mae gen i ddwy chwaer iau, un sy’n ddwy oed, ac un arall sy’n dair, ac rydw i wir yn mwynhau gofalu amdanyn nhw.
“Nawr fy mod i wedi symud ymlaen i’r elfen Datblygu ac rydw i’n astudio gofal plant, rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau dysgu pethau newydd fel sut i lanhau’r teganau’n iawn a newid clytiau. Rhyw ddydd gobeithio y gallaf gael lleoliad arall ac astudio i fod yn athrawes feithrin."
Byddwn i’n annog pobl eraill fy oedran i ystyried Twf Swyddi Cymru+. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae wedi fy helpu i sylweddoli beth rydw i’n bendant eisiau ei wneud gyda fy nyfodol. Bob dydd, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi ac yn fwy hyderus i fynd ar drywydd fy swydd ddelfrydol.”
Rhagor o wybodaeth
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rwyt ti am ei ddilyn? Gall yr elfen hon o Twf Swyddi Cymru+ dy helpu i benderfynu.
Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.