Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Brian

Brian

Mae cyn-gynhyrchydd ffenestri a drysau a ddiswyddwyd oherwydd anaf straen ailadroddus wedi sicrhau ei swydd ddelfrydol ar ôl cael cymorth gyrfa gan Lywodraeth Cymru a chyllid tuag at gymhwyster newydd.

Yn ôl ar y trywydd iawn

Roedd Brian, 47, o Wrecsam, yn ddi-waith am ychydig llai na blwyddyn cyn iddo ddod ar draws hysbyseb ar gyfer rhaglen ReAct+. Mae rhaglen ReAct+ yn cynnig cymorth personol i’r rheini sydd allan o waith neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi. Mae’r cymorth wedi’i deilwra i’w hanghenion unigol.

“Roedd methu â gweithio wedi lladd fy hyder i’r fath raddau fel nad oedd gen i awydd gwneud dim a doeddwn i ddim yn fi fy hun”.

Ar ôl dod ar draws rhaglen ReAct+ ar y cyfryngau cymdeithasol, cymerodd Brian y cam cyntaf tuag at gael ei hun yn ôl ar y trywydd iawn drwy gwrdd ag un o gynghorwyr Cymru’n Gweithio, gwasanaeth cyngor gyrfaoedd i bob oed.

Cael cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant

Ar ôl trafodaeth gychwynnol gyda chynghorydd Cymru’n Gweithio, sylweddolodd Brian nad oedd ei uchelgais o fynd yn ôl i’r diwydiant a dod yn weldiwr TIG mor amhosibl ag a feddyliodd i ddechrau.

Drwy raglen ReAct+, cynigiwyd gwerth £1,500 o gyllid i Brian tuag at gael cymhwyster Weldio Lefel 3 City and Guilds. Cafodd hefyd gyngor o ran CV i’w roi yn y sefyllfa orau wrth wneud cais am ei swydd ddelfrydol ym maes weldio TIG.

“Roedd ennill y cymhwyster a gwybod bod gen i CV cryf yn rhoi’r hyder i mi gysylltu â nifer o gyflogwyr a gwneud cais am swyddi gwahanol”.

Dod o hyd i swydd

Mae Brian bellach wedi bod yn ei swydd fel Weldiwr yn Range Fabrication ers 4 mis ac mae’n dweud nad yw erioed wedi bod yn hapusach yn ei yrfa.

“Pe bawn i’n rhoi un darn o gyngor, paid â rhoi’r ffidil yn y to fyddai hynny - cofia gredu ynot ti dy hun a’th allu. Roeddwn i’n poeni y byddai cyflogwr yn meddwl llai ohonof neu y byddai’n amharod i’m cyflogi oherwydd fy anaf, ond mae’n bwysig peidio â gadael i anaf neu gyflwr iechyd effeithio ar dy hyder.

I’r rheini sydd â chyflwr iechyd, mae rhaglenni fel ReAct+ yna i gynnig cymorth wedi’i deilwra ar gyfer dy anghenion penodol di ac i roi cyfle i ti newid dy fywyd er gwell."

“Mae’n rhaid i ti gredu ynot ti dy hun, ac rydw i’n brawf bod modd i ti, gyda’r hyfforddiant, y gefnogaeth a’r cyllid ychwanegol, deimlo fel ti dy hun eto a gwneud swydd rwyt ti’n ei mwynhau”.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.