Os nad ydych chi'n gweithio, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi'i deilwra er mwyn eich helpu i gael swydd cyn gynted â phosibl.
Beth yw ReAct+?
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd, fel cymorth o ran iechyd meddwl, magu hyder, sgiliau iaith a mwy.
Rhaglen grant newydd yw ReAct+ sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni'r gorffennol. Mae'n rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru.
Pwy sy'n gymwys?
Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+ mae'n rhaid eich bod yn 18 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru, gyda hawl i fyw a gweithio yn y DU, a naill ai:
- Wedi cael hysbysiad colli swydd ffurfiol neu
- Wedi colli swydd neu ddod yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf neu
- Bod rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Sut mae'n gweithio?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod sut y gall ReAct+ eich helpu, cysylltwch â Cymru'n Gweithio i drefnu apwyntiad.
Bydd un o gynghorwyr Cymru'n Gweithio yn gallu rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol ar yrfaoedd ichi, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael ichi.
Os mai ReAct+ yw'r peth iawn ichi, bydd un o'r cynghorwyr yn eich helpu i wneud cais a chreu cynllun gweithredu. Ar ôl inni gadarnhau eich bod yn gymwys a chymeradwyo eich cynllun, bydd eich cynghorydd yn cwblhau eich cais terfynol.
Beth sydd ar gael ichi drwy ReAct+?
Mae'r cymorth wedi'i deilwra'n benodol i chi ac i’ch sefyllfa chi. Nod yr holl gymorth a gynigir yw sicrhau eich bod yn cael swydd cyn gynted â phosibl.
Gall ReAct+ gynnwys:
- Hyd at £1,500 i'ch helpu i feithrin y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch – Grant Hyfforddiant Galwedigaethol
- Hyd at £4,550 i helpu i dalu costau gofal plant/gofal arall wrth ichi gwblhau hyfforddiant
- Hyd at £500 o gymorth datblygu personol i helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd – Cymorth Datblygu Personol
- Mentora a phrofiad gwaith
- Hyd at £300 o gymorth ar ben hynny tuag at unrhyw gostau ychwanegol wrth ichi gwblhau hyfforddiant, gan gynnwys costau teithio a llety
Sut y gallai ReAct+ gefnogi eich cyflogwr nesaf
Oes gennych chi ddarpar gyflogwr mewn golwg? Gall cyflogwyr gael cymorth ReAct+ i helpu gyda chost cyflog a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd ar gyfer gweithiwr newydd cymwys.
Mae'n rhaid nad ydych wedi gweithio am 6 wythnos neu fwy ers i chi golli eich swydd cyn iddynt wneud cais. Rhaid i chi hefyd beidio â dechrau gweithio i'ch cyflogwr newydd nes bod y cymorth wedi'i gymeradwyo.
Darganfyddwch isod sut y gallan nhw elwa o’ch cyflogi chi.
Pa gymorth sydd ar gael i gyflogwr?
Os ydych chi’n gymwys o dan ReAct+, gallai eich cyflogwr newydd gael:
- Hyd at £3,000 tuag at eich cyflog ym mlwyddyn gyntaf eich swydd newydd
- Hyd at £1,000 tuag at eich hyfforddiant a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y swydd newydd
- Os ydych chi rhwng 18 a 24 ac nad ydych mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, neu os ydych chi’n berson anabl, gallai eich cyflogwr newydd gael £1,000 arall am eich cyflogi
- Os ydych chi rhwng 18 a 24 ac nad ydych mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant a'ch bod hefyd yn anabl, gallai eich cyflogwr newydd gael hyd at £2,000 yn ychwanegol am eich cyflogi
A fydd fy nghyflogwr yn gymwys?
Gallai darpar gyflogwr wneud cais os ydych chi:
- Yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru ac:
- Wedi cael rhybudd ffurfiol o golli eich swydd neu
- Wedi colli swydd o fewn y 12 mis diwethaf neu
- Wedi dod yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf am resymau heblaw colli swydd neu
- Rhwng 18 a 24 oed a heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
Rhaid i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani:
- Fod am o leiaf 16 awr yr wythnos
- Talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol
- Para am o leiaf 12 mis
- Peidio â chael ei dalu gan gyllid arall gan y llywodraeth
Sut gall cyflogwyr wneud cais?
Dylai darpar gyflogwyr gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i gael gwybod sut y gall ReAct+ fod o fudd i’w busnes a’u gweithwyr.
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n ystyried yr angen i ddileu swyddi, efallai y bydd eich cyflogeion hefyd yn elwa o ReAct+.
Sut gallaf i wneud cais?
Os ydych chi am wneud cais am gymorth ReAct+, cysylltwch â Cymru'n Gweithio am ddim ar 0800 028 4844.
Gwyliwch y fideo
Dewch o hyd i fwy o fideos ReAct+ ar Sianel YouTube Cymru’n Gweithio (gwefan allanol).
Cymorth a chefnogaeth ychwanegol
Os ydych yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau:
- Fel arfer, gallwch astudio’n rhan-amser heb i hynny effeithio ar eich budd-daliadau. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn dechrau cwrs
- Mae rhai cyrsiau, gan gynnwys cyrsiau i wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd, ar gael am ddim
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau am ddim ar gael os ydych yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm. Gall help fod ar gael gyda chostau gofal plant a chostau eraill hefyd.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dysgwch am gymorth diswyddo sydd ar gael yng Nghymru, a sut mae ymdopi â diswyddiad.

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith