Wyt ti am gael mynediad at gyrsiau ar-lein hyblyg a rhan-amser ac ail-lunio dy yrfa?
Ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru ac yn ennill llai na *£30,596 y flwyddyn. Ydy’ch swydd mewn perygl, neu ydych chi am ddatblygu eich gyrfa mewn economïau digidol neu wyrdd cymeradwy? Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych o gael mynediad at astudiaethau rhan-amser ar gyrsiau penodol. Gallwn eich helpu i gam nesaf eich stori lwyddiant.
*Nid oes cap enillion o £30,596 ar gyrsiau cymeradwy neu gymwysterau mewn sgiliau digidol neu wyrdd.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn dy alluogi di i astudio cyrsiau hyblyg, rhan-amser o amgylch dy gyfrifoldebau presennol. Bydd yn dy alluogi di i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnat i newid gyrfa a dechrau ar lwybr newydd.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu hyblyg wedi'i ariannu'n llawn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Byddi di’n gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i'th helpu i ddatblygu dy yrfa bresennol neu ei newid yn gyfan gwbl.
Mae'r holl gyrsiau a gynigir trwy Gyfrif Dysgu Personol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw'r gofynion cymhwysedd?
Byddwn yn gwirio dy gymhwysedd pan fyddi di’n gwneud cais.
Rhaid i ti:
- Fyw yng Nghymru
- Fod eisiau ennill sgiliau/cymwysterau mewn sectorau â blaenoriaeth
- Fod yn 19 oed neu’n hŷn
Yn ogystal, rhaid i ti fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Bod yn gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig), yn ennill llai na’r incwm canolrifol* (£30,596); nid oes cap enillion os ydych yn gwneud cais am raglen sydd wedi’i chymeradwyo i ddatblygu sgiliau digidol neu wyrdd neu
- Yn weithiwr ar gontract dim oriau neu
- Yn aelod o staff asiantaeth neu
- Mewn perygl o gael eich diswyddo neu
- Droseddwyr ar ryddhad dydd
Ni fyddwch yn gymwys os ydych pan fyddwch yn gwneud cais:
- Dan 19 oed neu
- Yn mynychu ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr neu
- Mewn addysg uwch llawn amser neu
- Mewn Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu
- Yn wladolyn tramor anghymwys neu
- Yn derbyn Grant Dysgu'r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu
- Yn ddi-waith (heb gontract cyflogaeth)
Sut ydw i’n gwneud cais am Gyfrif Dysgu Personol?
Mae'r broses ymgeisio yn hawdd ac yn syml. Mae'n cynnwys cyfweliad digidol gyda chynghorydd gyrfa profiadol Cymru’n Gweithio cyn i ti gael dy dderbyn. Bydd y cynghorydd gyrfa yn rhoi cyfle i ti drafod dyheadau a nodau gyrfa a gwneud yn siŵr mai'r cwrs yw'r llwybr cywir i ti. Cysyllta â ni i drefnu cyfweliad.
Noder os gwelwch yn dda: Gelli di hefyd gysylltu â cholegau'n uniongyrchol.
Ble gallaf i ddefnyddio Cyfrif Dysgu Personol?
Mae colegau ledled Cymru yn cynnig cyrsiau drwy'r Cyfrif Dysgu Personol:
Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot
Colli Swydd a Chyfrif Dysgu Personol
Mae rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol yn agored i chi os ydych mewn perygl o golli swydd. Os byddwch mor anlwcus â chael eich diswyddo tra'n ymgymryd â'ch dysgu, fe'ch anogir i barhau â'ch dysgu os yw amgylchiadau'n caniatáu hynny.
Bydd Cyfrifon Dysgu Personol yn cael eu rheoli mewn cydweithrediad â rhaglen ReAct+. Dylech barhau â'ch dysgu a pheidio â gadael y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn gynnar i gael mynediad i ReAct+.
Os ydych yn astudio drwy Gyfrif Dysgu Personol, ni fyddwch yn gallu cael cymorth hyfforddiant galwedigaethol ReAct+ ar yr un pryd.
Fodd bynnag, gallwch gael mynediad at y cymorth canlynol gan y rhaglen ReAct+ os ydych yn gymwys:
- Elfen cymhorthdal cyflog Rhaglen ReAct+ (Cymorth Recriwtio i Gyflogwyr)
- Grant hyfforddi cyflogwyr ReAct+ (Cymorth Hyfforddiant Cyflogwyr)
- Parhau i hyfforddi drwy'r Cyfrif Dysgu Personol
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Cewch eich ysbrydoli

Mae Cyfrif Dysgu Personol Ally wedi rhoi hwb i’w busnes.

Cofrestrodd David ar gwrs rhwydweithio technegol i hyfforddi mewn sector allweddol â blaenoriaeth.

Dechreuodd Helen ei gyrfa newydd ar ôl treulio dwy flynedd yn gofalu’n llawn amser am ei nain.

Mae Jayne bron â dyblu ei chyflog ers iddi astudio ar gwrs Cyfrif Dysgu Personol.

Mae cwpl o Gasnewydd yn awyddus i ail-greu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng dwy raglen gefnogaeth wahanol.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith