Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Shane a Corrina

Shane a Corrina

Mae cwpl o Gasnewydd yn awyddus i ail-greu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng dwy raglen gefnogaeth wahanol.

Bu Shane Lock, 37, a Corrina Lewis, 45, o Gasnewydd yn annog oedolion yng Nghymru i geisio cefnogaeth ar ôl cael help gan Lywodraeth Cymru i’w cael yn ôl i waith.

I ddechrau, fe wnaeth y cwpl fynychu sesiwn yrfaoedd yn Cymru’n Gweithio i gael cefnogaeth diswyddo i Corrina. Ond ar ôl clywed am y dewis o raglenni cefnogaeth sydd ar gael, penderfynodd Shane feddwl am ei ddewisiadau ei hun hefyd.

Maen nhw’n awr wedi cofrestru ar ddwy raglen wahanol - ReAct+ a Chyfrifon Dysgu Personol.

Cefnogaeth Diswyddo

Mae gan Corrina 20 mlynedd o brofiad yn y maes deintyddol ond cafodd ei diswyddo pan ddaeth cwmni ei chyflogwr i ben.

Ar hyn o bryd mae’n chwilio am waith a bu’n cael cefnogaeth gan Cymru’n Gweithio drwy’r rhaglen ReAct+.

Meddai Corrina: “Rwy’n chwilio am her newydd ar hyn o bryd ond roeddwn i’n ei chael yn anodd cael swydd newydd. Pan siaradais â Chynghorydd Gyrfa yn Cymru’n Gweithio, fe wnaethant awgrymu’r rhaglen ReAct+ ar unwaith oherwydd ei hyblygrwydd.

“O’m cyfarfod cychwynnol, rwyf wedi cael arweiniad a chefnogaeth i greu CV a chyllid i feithrin fy sgiliau mewn cyfrifo drwy gyfrwng cwrs cadw llyfrau’r AAT.

“Mae hyd yn oed y pethau lleiaf, fel awgrymiadau da ar sut i wella fy CV wedi bod yn werthfawr dros ben. Mae nifer yr ymatebion a gaf i’r swyddi rwy’n gwneud cais amdanynt eisoes wedi cynyddu; mae hynny’n galonogol wrth chwilio am waith.”

Rôl newydd sbon

Roedd Shane yn arfer gweithio ym maes lletygarwch a gwasanaethau warws cyn cael ei swydd newydd fel Swyddog Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch.

Meddai Shane: “Rwyf wedi gweithio mewn swyddi amrywiol, ond yn ddiweddar roeddwn i wedi colli bob awydd ac yn teimlo mod i’n methu â symud ymlaen o waith dros dro. Roeddwn i’n awyddus i gael gyrfa hirdymor, ac i wneud hynny, gwyddwn fod arnaf angen rhagor o gymwysterau.

“Doeddwn i erioed wedi meddwl am siarad â chynghorydd gyrfa o’r blaen, ond bu’r profiad yn wych. Cafodd cynghorydd o Cymru’n Gweithio ei benodi ar fy nghyfer, ac fe wnaeth wir wrando ar fy sefyllfa, gan roi cyngor ar fy rhagolygon gyrfa a’m dewisiadau o ran cymwysterau.

“Fe wnaethant awgrymu fy mod yn dechrau cwrs drwy Gyfrif Dysgu Personol; mae hwn wir wedi gweddu imi gan ei fod mor hyblyg a gan fod cynifer o gymwysterau ar gael, i gyd am ddim. Siaradais â chynghorydd ar ddydd Llun, ac erbyn y dydd Gwener roeddwn i wedi dechrau fy nghwrs.”

Aeth Shane ymlaen:  “Ar hyn o bryd rwy’n astudio am Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch, ac er nad wyf wedi gorffen y cwrs eto, mae eisoes wedi fy helpu i gael swydd newydd fel Swyddog Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch yn y sector eiddo preswyl.

“Rwy’n gyfrifol am reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol ac effeithlon ar ein safleoedd, gan gynnwys gweithredu polisïau, monitro ac arolygu, ymchwiliadau ac asesiadau risgiau. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, rwyf wedi dod o hyd i yrfa rwyf fi wir eisiau rhagori ynddi, ac mae wedi rhoi imi ymdeimlad newydd o bwrpas yn fy mywyd proffesiynol.”

Manteision sy’n cael eu hariannu’n llawn

Mae Shane a Corrina wedi tynnu sylw at fanteision y cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n llawn.

Meddai Corrina: “Rwyf wedi cael cefnogaeth ardderchog bob cam o’r ffordd, ac yn anad dim, rwy’n teimlo bod fy nghynghorydd wedi gwir wrando arna i ac wedi teilwra’r help roeddwn ei angen o amgylch fy sefyllfa a’m sgiliau i. Fe all cael cyngor arbenigol yn aml fod yn ddrud ond ni fu’n rhaid imi boeni am hynny, ac mae hynny’n bwysau mawr oddi ar fy meddwl.

“Yn bwysicaf oll, mae wedi gwneud imi sylweddoli nad wyf fi ar fy mhen fy hun. Mae wedi helpu i roi hwb i’m hyder a bu’n gymaint o ryddhad gwybod bod help ar gael.”

Ychwanegodd Shane: “Mae’r Cyfrif Dysgu Personol wedi rhoi’r rhyddid imi astudio heb orfod poeni am y costau byw cynyddol na theimlo fy mod wedi fy nghlymu wrth un cyflogwr i ddysgu a datblygu.  Nid yw’n rhywbeth y gallwn i fod wedi ei fforddio fy hun gan ei fod yn costio dros £900 i’w wneud, ond roedd Llywodraeth Cymru yn talu am bopeth.”

“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n chwilio am swydd newydd neu sydd mewn perygl o gael eu diswyddo i fynd amdani!”

Ewch i Cyfrifon Dysgu Personol a ReAct+ i gael gwybod rhagor, neu cysylltwch â Cymru’n Gweithio.


Archwilio

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
 

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith