Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori David D

David D

Cofrestrodd David ar gwrs rhwydweithio technegol i hyfforddi mewn sector allweddol â blaenoriaeth.

Eisiau symud ymlaen

Mae David Davies, sy’n 37 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr yn un o 16,000 o unigolion sydd wedi cofrestru ar gwrs Cyfrif Dysgu Personol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Ar ôl pedair blynedd yn ei rôl yn y diwydiant TG fel dadansoddwr technegol desg gwasanaeth, roedd David yn chwilio am ffordd o wella ei sgiliau ochr yn ochr â’i ymrwymiadau eraill.

Dywedodd: “Roeddwn i’n awyddus i ddatblygu fy ngyrfa mewn rhwydweithio technegol. Pan welais gwrs Cisco CCNA ITN yng Ngholeg Gwent, roeddwn i’n meddwl ei fod yn edrych yn wych, ac yn ffordd ddelfrydol o ddringo’r ysgol.

“Roedd modd gwneud y cwrs o bell, a oedd yn berffaith i mi gan fy mod yn ceisio ymdopi ag astudio ochr yn ochr â bywyd cartref prysur gyda dau o blant. Cefais gynnig cefnogaeth ardderchog gan y tiwtor, a oedd bob amser yn hapus i helpu ac esbonio popeth yn fanwl.”

Dringo'r ysgol

Ers cwblhau ei gwrs Cyfrif Dysgu Personol, mae David wedi llwyddo i gael swydd fel Peiriannydd Cymorth Trydedd Linell yn CGI Cymru.

Dywedodd David : “Dechreuais fy rôl newydd ym mis Mehefin 2022 ac ni fyddai hynny wedi digwydd oni bai am fy Nghyfrif Dysgu Personol. Enillais brofiad ymarferol gwerthfawr gan ymestyn fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’r diwydiant.

“Er bod modd gweithio o bell, roeddwn i hefyd yn gallu mynd i ddarlithoedd a gweithdai i wella fy ngallu technegol a’m gallu i ddatrys problemau a rhwydweithio â phobl debyg i mi. Yn sicr, gwnaeth hynny fi yn fwy ymwybodol o botensial y diwydiant o ran swyddi.”

Y camau nesaf

Ychwanegodd David: “Rwy’n edrych ymlaen at weld ble mae fy nghwrs Cyfrif Dysgu Personol yn mynd â fi nesaf.

Rwy’n dal yn awyddus i archwilio fy opsiynau a pharhau â’m taith ddysgu. Mae’r gefnogaeth a’r cyllid a gefais yn gynnar yn fy ngyrfa wedi gwneud cymaint o wahaniaeth a byddwn yn annog unrhyw un arall sydd eisiau symud ymlaen yn eu gyrfa i ystyried Cyfrif Dysgu Personol.”

Chwiliwch Gyfrifon Dysgu Personol i ddarganfod mwy, neu cysylltwch â Cymru'n Gweithio.


Archwilio