Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Helen

Helen

Dechreuodd Helen ei gyrfa newydd ar ôl treulio dwy flynedd yn gofalu’n llawn amser am ei nain.

Dychwelyd i gyflogaeth

Penderfynodd Helen, sy’n 44 oed, astudio cwrs iechyd a diogelwch ar raglen Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi ei theulu mewn rôl newydd a chyffrous.

Roedd Helen wedi bod yn gofalu am ei nain yn llawn amser ac wedi mynd drwy ysgariad a arweiniodd at iddi ddychwelyd i weithio.

Dywedodd Helen: “Yn ystod fy mhriodas, roeddwn yn ddigon ffodus i allu gofalu am fy nain ar adeg pan gafodd ddiagnosis o Ddementia. Diolch byth, roedd aelod arall o’r teulu’n gallu ysgwyddo’r rôl ofalu pan newidiodd fy amgylchiadau teuluol i, a oedd yn golygu ’mod i’n gallu dechrau chwilio am swydd.”

Cyfle annisgwyl

Sicrhaodd Helen swydd mewn sector nad oedd hi erioed wedi gweithio ynddo o’r blaen nac wedi bwriadu mynd iddo.

Dywedodd: “Pan ges i gyfweliad â Cartrefi Melin, roedden nhw’n meddwl y byddwn i’n ddelfrydol ar gyfer rôl wahanol yn y tîm iechyd a diogelwch dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth. Cefais fy nghyflogi’n barhaol gan y cwmni ar ôl i’r contract ddod i ben, ond mewn adran wahanol.”

Canfod ffordd yn ôl

Ar ôl peth amser, penderfynodd Helen yr hoffai ddychwelyd i weithio ym maes iechyd a diogelwch.

Dywedodd: “Mae llawer o swyddi sy’n cael eu hysbysebu yn y sector yn aml yn gofyn am gymhwyster NEBOSH (Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol) fel safon, felly dechreuais chwilio am lefydd lle gallwn gwblhau’r cwrs er mwyn gwella fy sgiliau.

“Fe wnes i gysylltu â Choleg Gwent i holi am y cwrs NEBOSH yno, a dywedon nhw wrthyf y byddwn i’n gymwys ar gyfer rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.”

Manteision Cyfrif Dysgu Personol

Mae Helen wedi elwa llawer o ddefnyddio Cyfrif Dysgu Personol. Iddi hi, mae wedi arwain at yrfa newydd. Mae hefyd wedi ffitio i mewn i'w ffordd o fyw fel mam a gweithiwr llawn amser.

Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd cael y Cyfrif Dysgu Personol yn hynod o hawdd i mi. Y cyfan yr oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd llenwi ffurflen ar-lein, ac wedi ambell i alwad ffôn roedd popeth wedi’i drefnu ac yn barod i fynd.

“Rwy’n hoffi nad oes terfyn amser wedi’i osod ar y cyfrif. Cyn belled â’ch bod yn gorffen cynnwys y cwrs ac yn pasio’r arholiad ar ddiwedd y flwyddyn, dyna’r cyfan y mae angen i chi ei wneud. Does dim pwysau arnoch chi i gwblhau rhai rhannau ohono ar adeg benodol, ac mae fy nosbarthiadau i gyd ar-lein, felly gallaf ailgydio ac ailddechrau pan fydd gen i 30 munud rhydd, sy’n ffitio o gwmpas fy mywyd.

“Mae hefyd wedi bod yn fantais enfawr i mi nad oes angen i mi dalu amdano, gan fy mod wedi gallu cychwyn ar y cwrs ar unwaith yn hytrach nag aros nes i mi roi rhywfaint o arian o’r neilltu.”

Beth nesaf?

Dywedodd: “Rydw i newydd gael swydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl profi fy niddordeb yn y pwnc drwy’r Cyfrif Dysgu Personol rydw i’n parhau i’w wneud, felly byddaf yn dychwelyd i iechyd a diogelwch yn gynt nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl!”

Mae Helen yn bwriadu cwblhau ei chymwysterau a pharhau i uwchsgilio.

Chwiliwch Gyfrifon Dysgu Personol i ddarganfod mwy, neu cysylltwch â Cymru'n Gweithio


Archwilio