Mae Jayne bron â dyblu ei chyflog ers iddi astudio ar gwrs Cyfrif Dysgu Personol.
Wedi mynd i rigol
Mae Jayne, sydd yn ei 30au, wedi elwa o astudio un o raglenni diweddaraf Llywodraeth Cymru, sydd wedi eu hariannu’n llawn, ar ôl iddi deimlo ei bod wedi mynd i rigol yn ei gyrfa yn ystod y pandemig.
Roedd Jayne wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm marchnata a chysylltiadau cyhoeddus bach yn rhan-amser pan ddechreuodd ei Chyfrif Dysgu Personol i helpu i roi hwb i’w gyrfa.
Dywedodd, “Rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cyfathrebu ers cryn amser, ond roedd y pandemig wedi cyfyngu fy natblygiad gyrfa. Roedd gen i rai problemau meddygol nad oedd yn cael sylw oherwydd y pandemig.
"Ar ben hynny, roeddwn i’n ceisio taro’r cydbwysedd iawn rhwng gweithio gartref â gofalu am blentyn bach. Doedd gen i ddim llawer o amser sbâr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi mynd i rigol, ac roedd hi’n anodd ysgogi fy hun i uwchsgilio pan nad oeddwn yn meddwl fod gen i’r amser na’r arian.
"Roedd Cyfrif Dysgu Personol yn swnio fel y ffordd berffaith o roi hwb i fy ngyrfa mewn ffordd hyblyg a hawdd ei rheoli.
"Roeddwn i’n gallu astudio’n hyblyg ac o’m cartref, gan wneud amser i astudio o gwmpas fy ngwaith a’m hamser teuluol.”
Astudio o gwmpas ei hymrwymiadau
Mae’r cwrs PRINCE 2 Agile a Sylfaen a astudiodd Jayne yn canolbwyntio ar sut i reoli prosiectau’n effeithiol drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau.
Dywedodd Jayne, “Fe wnes i astudio’r cwrs o bell ond roedd hynny’n addas iawn i mi oherwydd fy mab bach. Astudiais tua 5-10 awr yr wythnos ac fe wnes i fwynhau perthnasedd y cwrs yn fawr.
“Er fy mod wedi astudio cyrsiau academaidd o’r blaen, roedd yn teimlo’n wych cwblhau cwrs a oedd yn darparu sgiliau trosglwyddadwy yn uniongyrchol.”
Ar ôl ei chwrs, uwchlwythodd Jayne y cymhwyster newydd i’w LinkedIn a dechreuodd sylwi ar gynnydd yn nifer y cyflogwyr a oedd yn cysylltu â hi.
Ychwanegodd Jayne, “Dechreuais fynd i gyfweliadau, ac roeddwn i’n teimlo’n llawer mwy hyderus ar ôl cwblhau’r cwrs ac ennill cymhwyster arall.
“Fe ges i swydd yn y Gwasanaeth Sifil ac ers hynny rydw i wedi gallu gweithio ar nifer o brosiectau trawslywodraethol, gan gynnwys bod yn rhan o dîm cyfathrebu Angladd Gwladol y Frenhines.”
Dringo’r Ysgol
“Fe wnaeth cwblhau fy nghwrs Cyfrif Dysgu Personol yng ngholeg Gwent fy helpu’n uniongyrchol i gael swydd newydd a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau dringo’r ysgol neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd i fynd amdani.
“Doeddwn i ddim yn teimlo’n gaeth i gyflogwr, ac roedd gen i’r hyblygrwydd a’r rhyddid i astudio o gwmpas fy amgylchiadau personol.”
Chwiliwch Gyfrifon Dysgu Personol i ddarganfod mwy, neu cysylltwch â Cymru'n Gweithio.