Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ian

Ian

Roedd mynd trwy adolygiad gyrfa yn helpu Ian i symud i swydd newydd ar ôl colli ei swydd.

Cael cefnogaeth ar ôl colli swydd

Gwnaeth Ian, sy’n byw yng Nghaerdydd, estyn allan am gymorth gyrfa gan Cymru’n Gweithio pan gafodd rybudd o ddiswyddo ar ôl ugain mlynedd yn gweithio i gwmni cyfleustodau trydan a nwy.

Roedd Ian wedi defnyddio’r gwasanaeth yn ôl yn 2002 pan newidiodd ei amgylchiadau, ac roedd angen newid gyrfa arno o nyrsio.

Bellach yn ei bumdegau, dywed Ian, “Roeddwn i yn cofio pa mor gymwynasgar a chadarnhaol oedd y gwasanaeth ugain mlynedd yn ôl. Wnes i ddim oedi i fynd at y cymorth eto wrth i mi golli fy swydd.

Doedd gen i ddim y meddylfryd i chwilio am swydd newydd. Doeddwn i ddim wedi cael cyfweliad ers ugain mlynedd, ac roeddwn i'n teimlo'n hollol amharod. Roedd fy CV mor hen roedd wedi cael ei gadw ar ddisg hyblyg!”

Symud ymlaen

Dechreuodd gyrfa Ian mewn nyrsio, ac mae’n dweud, “Hyd yn oed o oedran ifanc, rydw i wastad wedi mwynhau helpu pobl ac mae pob swydd rydw i wedi’i chael wedi cynnwys helpu eraill.”

Roedd Ian yn gwybod ei fod eisiau gweithio mewn rôl ofalu. Mewn adolygiad gyrfa gyda’r cynghorydd gyrfa Mark Leonard, cafodd Ian asesiad seicometrig am ddim i helpu i nodi’r mathau o swyddi a allai fod yn addas iddo.

Nododd Ian a Mark fod angen cymorth ar Ian ym meysydd meithrin hyder, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliad a mynediad at fwletin swyddi Gyrfa Cymru.

Dechrau gyrfa newydd

Ymgeisiodd Ian am swydd a bu'n llwyddiannus. Mae bellach yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi pobl i reoli eu budd-daliadau a'u biliau. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gael gafael ar arian a bwyd brys a gwneud cais am grantiau a disgowntiau.

Mae Ian yn dweud, “Rydw i wrth wraidd cynorthwyo pobl trwy’r argyfwng costau byw, er mwyn iddynt gael cartrefi cynnes a chadw’r goleuadau ymlaen.”

Wrth siarad am y cymorth a gafodd, dywed Ian, “Roedd y cymorth gyrfa ymarferol yn amhrisiadwy i mi allu gwneud fy swydd newydd gan nad oeddwn erioed wedi gwneud unrhyw waith o’r math hwn o’r blaen.”

Er mai dim ers dwy flynedd y bu gyda'i gyflogwr presennol, mae Ian eisoes wedi cael dyrchafiad. Mae'n mwynhau ei rôl newydd.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Ian, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.


Archwilio