Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Derw

Mechanics trainee, Derw, working on a vehicle

Cafodd Derw gefnogaeth i gael cyflogaeth llawn amser yn ei ddiwydiant delfrydol.

Cyflwyniad i fyd gwaith

Yn yr ysgol, roedd Derw, o Gwm Penmachno, Gogledd Cymru, yn cael trafferth dysgu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. Er hynny, diolch i berthynas dda gyda’i athrawon, mi ddatblygodd ei gariad at ffiseg.

Roedd ganddo angerdd am geir a mecaneg, ac roedd yn gwybod ei fod eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant hwn. Diolch i Twf Swyddi Cymru+, gwnaeth Derw yn union hynny ac mae wedi sicrhau cyflogaeth gyda'r cwmni llogi coetsis, Llew Jones.

Esboniodd Derw, “Doedd dysgu academaidd yn y dosbarth ddim yn iawn i fi, felly ar ôl gorffen fy arholiadau TGAU roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i fyd gwaith.

Roeddwn i wedi bod yn Llew Jones yn barod ar brofiad gwaith, felly roedd cael y cyfle cyflogaeth hwn gyda nhw drwy raglen Twf Swyddi Cymru+ yn gwireddu breuddwyd. Mae’n ffordd wych i mi ddatblygu fy sgiliau mecanyddol ymhellach.”

Profiad yn y diwydiant a datblygu’n annibynnol

Mae Derw bellach wedi dechrau ei waith ers sawl mis ac mae’n dweud ei fod wedi helpu i adeiladu ei brofiad yn y diwydiant a’i annibyniaeth.

Aeth ymlaen i ddweud “Dwi ddim ond wedi bod yn Llew Jones am ychydig o fisoedd, ond dwi’n barod yn gallu gweithio’n annibynnol ar brosiectau heb ormodedd o gymorth gan fy mentor, Colin.

“Un o’r rhannau gorau am y swydd yw’r profiad gwaith ymarferol dwi wedi cael yn fy nghyfnod yma. Mae gweithio ochr yn ochr â Colin a chael cyfle i roi fy sgiliau ar waith wedi rhoi llwyth o brofiad i mi y byddai’n gallu parhau i ddatblygu a defnyddio mewn rolau yn y dyfodol.

“Er enghraifft, dwi wedi datblygu fy sgiliau wrth drwsio a newid ‘bearings’ olwyn a helpu wrth ailadeiladu cerbydau wedi’u difrodi. Yn ddiweddar, dwi wedi dechrau defnyddio’r peiriant llifio i helpu siapio a phlygu’r metel sy’n broses cymhleth byddai Uwch fecanic yn gwneud. Diolch i gymorth Colin a’i fentora, dwi’n barod yn cael profiad o ddefnyddio’r peiriant.”

Adeiladu hyder

Mae gweithio yn Llew Jones wedi helpu Derw i ddatblygu ei hyder yn gweithio a chyfathrebu gydag ystod eang o bobl yn ogystal â sylweddoli'r hyn mae’n gallu ei gyflawni.

Ychwanegodd Derw “Mae’r cymorth dwi wedi derbyn trwy raglen Twf Swyddi Cymru+ a’r profiad dwi wedi derbyn yn ystod fy amser fan hyn wedi fy helpu i ddatblygu pob math o sgiliau. Nawr mae gen i’r hyder i siarad ag ystod o bobl ar draws y busnes ac i leisio fy marn wrth weithio mewn tîm.

“Mae ennill cyflog hefyd wedi galluogi mi fod yn berson mwy annibynnol, gan fy mod i’n gallu gofalu amdana i. Dwi wedi prynu beic modur yn ddiweddar er mwyn gallu teithio i ac o’r gwaith yn ogystal â mynd i ymweld â llefydd newydd yn fy amser rhydd. Mae’n newid byd."

Pan fydda i wedi gorffen fy lleoliad gwaith yn Llew Jones, dwi’n gobeithio mynd ati i gael prentisiaeth a pharhau i weithio yn fy niwydiant delfrydol a datblygu fy sgiliau mecanyddol ymhellach”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.