Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Ben

Ben and his manager in the workshop

Roedd Ben Hamblett yn poeni y byddai ei ddiffyg clyw yn ei ddal yn ôl. Bellach mae'n annog pobl anabl eraill i wneud cais am brentisiaethau.

Diffyg hyder a gorbryder

Mae Ben yn Brentis Peirianneg Trydanol ac Electronig Lefel 3 gydag ACE Lifts ac yn gweithio mewn tîm bychan yn gwifrio unedau cydrannau lifftiau.

Cafodd y dyn ifanc 28 mlwydd oed HNC mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi gadael yr ysgol ond cafodd hi'n anodd i gael gwaith am bum mlynedd, a olygodd ei fod yn dioddef o ddiffyg hyder a gor-bryder.

Meddai Ben: "Roeddwn yn poeni am y dyfodol ac am beidio â cael gwaith. Daeth sefyllfa ble yr oeddwn yn gwybod bod angen cymorth arna i, felly cysylltais ag Action on Hearing Loss (AOHL) am gymorth.

Dod o hyd i gyflogwr cefnogol

Roedd yn bwysig i Ben ddod o hyd i gyflogwr a fyddai'n gefnogol i'w ddiffyg clyw ac felly helpodd AOHL iddo ddod o hyd i restr o gyflogwyr posibl. 

"Daethom o hyd i gwmni o'r enw ACE Lifts yn hysbysebu swyddi peirianyddol", meddai Ben. "Roeddwn yn poeni am wneud cais gan bod gan rai cwmnïau y camsyniad bod pobl fyddar yn risg iechyd a diogelwch yn y gweithle - yn enwedig mewn swyddi peirianyddol."

Roedd y swydd y gwnaeth gais amdani yn golygu gweithio i lawr twnnel lifft ble y byddai'n rhaid iddo ddilyn cyfarwyddiadau cydweithiwr a fyddai ar ben uchaf y lifft.

Sicrhau prentisiaeth

Dywedodd Ben, sy'n mwynhau cynhyrchu cerddoriaeth yn ei amser sbâr: "Es i gyfarfod ACE Lifts am sgwrs anffurfiol, ac yn ystod hyn gwelais nad oedd y swydd yn addas ar fy nghyfer gan na fyddwn o bosibl yn gallu clywed y cyfarwyddiadau. Roedd yn amlwg yn siom, ond yna fe wnaethant sôn am Brentisiaeth Peirianneg Trydanol ac Electronig oedd ar gael gan gynnig treial gwaith imi am ddeuddydd.

"Wedi'r treial cefais gynnig y swydd prentis. Roedd yn sioc imi dderbyn yr alwad ond roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael swydd o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o chwilio! Dwi bellach wedi gwneud saith mis o brentisiaeth ac yn ei fwynhau yn arw ac wedi ad-ennill fy hyder,' meddai.

Dyfodol positif

Mae Ben yn gobeithio dangos i bobl anabl eraill y gallai prentisiaeth fod yn drobwynt i'r rhai hynny sy'n chwilio am waith.

"Bob diwrnod, dwi'n dysgu sgiliau newydd, dwi wedi dysgu sut i godi offer a gwaith cydrannau a tydi fy niffyg clyw ddim wedi bod yn broblem o gwbl. Nid yn unig hynny ond mae fy mhrentisiaeth wedi golygu fy mod hefyd yn sefydlog yn ariannol." Meddai Ben, sydd hefyd yn dysgu siarad Japaneeg.

"Dwi'n llawer mwy positif nawr am y dyfodol, ac allai ddim aros i weld beth ddaw yn ail flwyddyn fy mhrentisiaeth."


Archwilio

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Cymorth arbenigol

Dewch o hyd i gymorth arbenigol i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith os oes gennych anabledd neu'ch bod yn cael trafferth gydag afiechyd.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Safyan

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...

Stori Laura

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny...

Stori Daren

Mae Daren, y rheolwr, wedi bod yn llwyddiannus iawn drwy gwblhau prentisiaeth...