Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Laura

Laura’r peiriannydd wrth ei gwaith yn Airbus

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny.  

Cwblhaodd ei phrentisiaeth Lefel 3 ym mis Tachwedd 2019 ac mae bellach wedi cymhwyso’n llawn fel peiriannydd ac yn gweithio i Airbus.

Roeddwn i’n hoffi’r syniad o ddysgu yn y gwaith 

Meddai Laura: “Rydw i’n berson eithaf ymarferol, a wastad wedi bod hapusaf yn gwneud pethau a gwneud pethau gyda’m dwylo. Treuliais lawer o fy amser hamdden yn blentyn yn dysgu sut i wneud ac atgyweirio darnau ar gyfer y car. Doedd astudiaethau academaidd ddim i mi yn yr ysgol, a doeddwn i’n gwybod fawr ddim am brentisiaethau'r adeg honno, felly gadawais ar ôl cael TGAU a mynd yn syth i weithio. Dim ond ar ôl blwyddyn neu ddwy y dechreuais ystyried prentisiaeth a dechrau ar fy lleoliad yn Airbus.

“Gydol fy mhrentisiaeth treuliais un diwrnod yr wythnos yn y coleg a thri diwrnod yn gweithio yn ffatri Airbus. Roedd fy nghymhwyster yn canolbwyntio ar systemau, ond cefais dreulio amser mewn gwahanol adrannau yn dysgu am yr holl broses gynhyrchu a sut mae popeth yn dod at ei gilydd. Cwblheais fy nghymhwyster Lefel 3 ym mis Tachwedd y llynedd felly rwyf nawr wedi cymhwyso’n llawn fel peiriannydd ac yn hyfforddi fy mhrentis fy hun.”

Fy mhrentisiaeth oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed

“Prentisiaeth oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi’i wneud. Roedd pob diwrnod yn wahanol a chefais gyfle i ddysgu gan beirianwyr profiadol medrus.

"Rydw i hyd yn oed wedi gweld bod rhai sgiliau a ddysgais yn gallu cael eu trosglwyddo i fy mywyd bob dydd. Rydw i’n hyderus yn defnyddio offer pweredig a thrwsio pethau mecanyddol o gwmpas y tŷ.

"Mae hefyd wedi arwain at lawer o gyfleoedd i mi; pan ddaeth y pandemig coronafeirws, gofynnwyd i mi fod yn rhan o dîm yn Airbus yn adeiladu peiriannau anadlu ar gyfer y GIG a oedd yn brofiad gwych a chwbl wahanol i unrhyw beth roeddwn i wedi’i wneud o’r blaen.

"Mae’r posibilrwydd o weithio dramor neu fynd ymlaen i Lefel 4 a gweithio fy ffordd i fyny i lefel rheolwr.

“I unrhyw un sy’n cael eu canlyniadau eleni nad ydynt yn siŵr beth i’w wneud nesaf, neu unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth, fy nghyngor yw ewch amdani.

"Rwy wrth fy modd gyda’m swydd, a’r unig beth rwy’n ei ddifaru yw peidio wedi dechrau fy mhrentisiaeth yn gynt. Rwy’n ‘nabod prentisiaid eraill a ddechreuodd yn syth ar ôl eu TGAU, sydd wedi cymhwyso’n llawn ers blynyddoedd ac wedi llwyddo i gynilo i roi blaendal ar dŷ yn 21 neu 22 oed. 

Gall prentisiaeth eich rhoi ar y llwybr iawn am byth, ac os ydych chi eisiau newid eich gyrfa neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol, bydd gennych wastad y cymhwyster hwnnw a’r sgiliau hynny i’ch helpu ar eich taith.”


Archwilio

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Begw

Begw Rowlands: Mae blwyddyn allan wedi fy helpu i gynllunio fy nyfodol...

Stori Dominic

Yn 16 oed, roedd Dominic yn brentis gwaith saer ac erbyn troi’n 21 oed roedd wedi dechrau ei fusnes ei hun. Dyma hanes Dominic…

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.