Mae Daren Chesworth o Garden Village, Wrecsam yn dweud mai i’w brentisiaeth y mae’r diolch am ei yrfa lwyddiannus. Ar ôl dechrau ar lawr y ffatri, mae bellach yn rheoli cwmni byd-eang gwerth £30 miliwn.
Dangos menter a chreu gyrfa
Pan adawodd Daren, sy’n 31 bellach, yr ysgol dechreuodd weithio ar lawr y ffatri, yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Ar ôl penderfynu ei fod am greu gyrfa iddo’i hun ym maes peirianneg, aeth Daren at ei gyflogwr a holi am y posibilrwydd o fwrw prentisiaeth.
Ar ôl gorffen ei brentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Electronig, mae Daren wedi’i ddyrchafu i swydd rheolwr cynnal a chadw yn TC Transcontinental, lle mae’n gyfrifol am gynnal y brif adran a hyfforddi prentisiaid newydd. Mae Daren hefyd wrthi’n gwneud ei MPhil/PhD mewn Strategaeth Cynnal a Chadw erbyn hyn, gan rheoli'r gwaith o gynnal a chadw asedau o hyd at £30 miliwn.
Mae Daren wedi dringo’r ysgol academaidd gyda’i brentisiaeth
Meddai Daren: “Wrth ennill profiad ymarferol mewn peirianneg fecanyddol a thrydanol, dwi wedi gallu dringo’r ysgol academaidd. Dwi wedi cwblhau fy ngradd mewn Peirianneg Electronig erbyn hyn a dwi hanner ffordd drwy fy PhD mewn Strategaeth Cynnal a Chadw.”
Meddai Dr Keith Vidamour, Rheolwr Peirianneg TC Transcontinental: “Dechreuodd Daren gyda ni ddeng mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi gosod safon uchel tu hwnt i eraill ei dilyn.
“I ni, mae cael prentisiaid yn golygu ein bod ni’n cael addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, gan eu hyfforddi ar gyfer y rolau penodol sydd eu hangen arnom. Ers rhoi cyfle i Daren fel prentis, rydym ni wedi gweld y manteision a ddaw yn sgil prentisiaethau ac erbyn hyn rydym yn ystyried prentisiaid yn allweddol yn ein strategaeth recriwtio wrth symud ymlaen.”
Archwilio

Ennill cyflog tra'n gweithio a chael cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i swydd.

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Mae Sally, enillydd gwobr Prentis y flwyddyn 2018, wedi ennill HNC a gyrfa yn Tata Steel...

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny...