Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Sally

Sally’r prentis yn sefyll tu allan i Tata Steel

Mae Sally Hughes, 20 oed o Bort Talbot, yn dweud mai i’w phrentisiaeth y mae’r diolch am iddi gael swydd ei breuddwydion fel technegydd labordy yn Tata Steel. Enillodd Sally Wobr Prentis y Flwyddyn, yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2018 Llywodraeth Cymru.

O brentis i dechnegydd labordy cymwys 

Ar ôl pedair blynedd yn gweithio tuag at brentisiaeth uwch (lefel 4) gyda HNC mewn Cemeg Gymhwysol, mae Sally’n aelod tîm llawn amser yn y gwaith dur ym Mhort Talbot erbyn hyn. 

Meddai Sally: “Yn yr ysgol, fe wnes i fwynhau pynciau sy ' n seiliedig ar wyddoniaeth, felly edrychais i ar ffyrdd o gael gyrfa gyda chefndir mewn gwyddoniaeth. Doedd hi ddim tan i’m tad ddweud wrtha’i am brentisiaeth yn Tata Steel, y gwnes i sylweddoli y byddwn i’n gallu dechrau gweithio mewn maes oedd yn agos at fy nghalon, tra’n gweithio tuag at gymhwyster. Roedd hynny’n berffaith.

“Fel prentis roeddwn i’n gweithio ar sail rota ar draws y saith labordy a chefais gyfle i ddysgu llawer o wahanol sgiliau, gan weithio mewn gwahanol dimau. Fe wnaeth hyn fy helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ac rwy’n defnyddio’r rheini yn fy ngwaith.  

Graddio drwy brentisiaeth 

“Fe wnes i fwynhau fy mhrentisiaeth yn fawr iawn a’r cyfle a roddodd i mi mewn bywyd. Fy nod bellach yw gweithio’n galed i gwblhau prentisiaeth lefel gradd, ac efallai PhD hyd yn oed.”

Meddai Mathew Davies, Cynghorydd Hyfforddiant Technegol Tata Steel: “Rydym ni’n recriwtio prentisiaid yn gyson gan ei bod hi’n anodd dod o hyd i’r doniau sydd eu hangen arnom ni yn y diwydiant cymhleth hwn. Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn sicrhau bod gennym gronfa barod o ddoniau y gallwn ei datblygu i fyny’r ysgol i swyddi uwch weithredwyr ac arweinwyr tîm.”


Archwilio

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Safyan

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...

Stori Daren

Mae Daren, y rheolwr, wedi bod yn llwyddiannus iawn drwy gwblhau prentisiaeth...

Stori Laura

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny...