Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Beverley

Beverley

Fe wnaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd helpu Beverley i symud ymlaen ar ôl ymddeol.

Newid cyfeiriad ar ôl ymddeol

Bu Beverley yn gweithio i Lywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd.  Bu’n cynorthwyo â’r broses o sefydlu a rhedeg y llinell gymorth sy’n tywys pobl drwy’r system pryderon iechyd a chynorthwyo pobl sy’n agored i niwed.

Dewisodd Beverley ymddeol yn gynnar ym mis Mehefin 2019.

“Hwn oedd yr adeg iawn i mi ymddeol.  Roeddwn yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd ac roeddwn am barhau i helpu pobl mewn rhyw ffordd.  Rwyf wrth fy modd yn helpu eraill.

“Roeddwn yn hoffi’r syniad o waith cwnsela ond roedd angen i mi gael cyfarwyddyd er mwyn gwybod ble i ddechrau".

Cymru’n Gweithio – y lle cywir ar yr adeg cywir 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newydd Cymru’n Gweithio, cynhaliodd Gyrfa Cymru gyfres o sioeau teithiol proffil uchel mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.  Llwyddodd Beverley i fynychu un o’r sioeau teithiol hyn a chafodd y cymorth yr oedd ei angen arni ar yr adeg iawn.

“Roeddwn yn cerdded drwy ganol y dref yn fuan ar ôl i mi ymddeol. Cefais wybod am y gwasanaeth newydd Cymru’n Gweithio a oedd yn swnio’n rhywbeth a allai fod o gymorth mawr i mi.  Roedd yr amseru’n berffaith.  Cefais sesiwn gyfarwyddyd anffurfiol yn y fan a’r lle ac yna roedd modd i mi drefnu sesiwn ddilynol yn y ganolfan Gyrfa Cymru leol. 

“Roedd y ddwy sesiwn cyfarwyddyd yn ddefnyddiol iawn.  Llwyddodd Wendy, y cynghorydd gyrfa, i ddeall fy anghenion yn gyflym, ysgrifennu cynllun a rhoi rhestr o’r cyrsiau a’r sefydliadau gwirfoddoli y gallwn gysylltu â nhw”. 

Dechrau pennod newydd

Gyda chymorth Cymru’n Gweithio, llwyddodd Beverley i gofrestru ar sawl cwrs, gan gynnwys hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn gwella ei sgiliau gwrando. Mae Beverley eisoes wedi defnyddio’r hyfforddiant hwn. 

“Rwyf newydd ddechrau gwirfoddoli gyda’r Gymdeithas Facwlaidd, sef cyflwr sy’n effeithio ar y golwg. Rwy’n gwirfoddoli fel cyfaill ac yn helpu unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed ac yn unig. Mae hyn yn bwysig iawn yn ystod y pandemig presennol ble y gall pobl deimlo bod ganddynt lai o gysylltiad na’r arfer. 

“Mae gwirfoddoli’n rhoi llawer o foddhad i mi.  Mae creu cysylltiadau newydd a helpu eraill wedi cael effaith bositif ar fy lles meddyliol personol hefyd.

“Mae gwirfoddoli yn falm i’r enaid a byddem yn ei argymell yn gryf”.

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan stori Beverley ac yn awyddus i gael gwybod am yr opsiynau sydd ar gael ar ôl i chi ymddeol neu sut i ddechrau gwirfoddoli, ffoniwch Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844.


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni