Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Anna

Anna

Ar ôl cael cymorth wedi’i deilwra, daeth Anna o hyd i rôl derbynnydd rhan amser sy’n addas i’w hanghenion.

Roedd Anna, sy’n 52 oed ac yn byw yn Abertawe, wedi treulio blynyddoedd yn gwneud gwaith gweinyddol dros dro. Y llynedd bu'n rhaid iddi adael ei swydd oherwydd cyflwr iechyd meddwl.

Cymerodd amser i ganolbwyntio ar ei lles ac yn ddiweddarach cysylltodd â'i meddyg teulu. Dechreuodd therapi ac ymunodd â chwrs llesiant dros gyfnod o chwe wythnos mewn canolfan leol yn Abertawe.

Dod yn ôl ar y trywydd cywir gyda chefnogaeth

Cyfeiriwyd Anna at Cymru’n Gweithio ar ôl mynychu digwyddiad i bobl dros 50 oed. Yno, cyfarfu ag Aaron, anogwr cyflogadwyedd.

Dywedodd, “Fe siaradon ni yn y digwyddiad yn y ganolfan waith, ac yn ddiweddarach fe ges i apwyntiad fideo gydag Aaron i siarad am yr hyn oedd angen i mi ei wneud i ddychwelyd i’r gwaith.”

Cafodd Anna help gan Aaron i ddiweddaru ei CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Dywedodd Anna, “Fe roddodd gyngor i mi ar ateb cwestiynau pan rydw i dan bwysau a sut i ymdopi a llwyddo mewn cyfweliad.

“Dangosodd Aaron i fi sut i gofrestru ar gyfer cylchlythyrau sydd â rhestrau swyddi fel y gallaf edrych a cheisio dod o hyd i rywbeth a fydd yn addas i mi fynd yn ôl i’r gwaith.”

Cafodd Anna gymorth hefyd gan fentor cyflogaeth gyda'r rhaglen Cymunedau am Waith a ariennir gan Gyngor Abertawe.

Ymunodd â Cyfle Cymru, sef gwasanaeth mentora cymheiriaid sy’n helpu pobl i wella o broblemau iechyd meddwl. O ganlyniad, roedd Anna yn teimlo'n barod i ddychwelyd i'r gwaith gam wrth gam.

Diolch i'r gefnogaeth gyfannol, cafodd Anna ei chyfeirio at rôl mewn meddygfa leol.

Dywedodd, “Dechreuais hyfforddi yno rai wythnosau yn ôl. Byddaf yn dechrau fy rôl derbynnydd rhan-amser yn swyddogol ym mis Mai. Dim ond 9.5 awr yr wythnos ydyw, felly nid yw’n ormod i mi.”

Magu hyder eto

Dywedodd Anna, “Rwy’n teimlo’n fwy hyderus unwaith eto. Rydw i wedi bod yn gwneud yr hyfforddiant ers pythefnos ac mae gen i bythefnos arall o hynny felly pan fyddaf yn dechrau o ddifrif, byddaf yn teimlo hyd yn oed yn fwy hyderus.”

Mae Anna eisiau i eraill wybod nad oes rhaid iddyn nhw wynebu pethau ar eu pen eu hunain. “Mae help ar gael. Does ond angen i chi chwilio amdano.

“Roedd fy nghynghorwyr yn gefnogol iawn. Roedden nhw'n deall fy amgylchiadau a byth yn fy ngwthio i wneud rhywbeth cyn i mi fod yn barod. Cymerais fy amser a mynd trwy bob galwad fideo fesul un nes fy mod yn barod i gymryd y cam nesaf.”

Roedd gallu mynychu apwyntiadau gartref hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i Anna.

“Nid oeddwn o dan unrhyw bwysau i fynd i mewn i’r swyddfa am apwyntiad. Roeddwn i’n gallu gwneud y cyfan gartref ac roedd hynny’n dda iawn i mi.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’r cyfleoedd sydd ar gael gyda chynghorydd gyrfaoedd neu anogwr cyflogadwyedd, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.