Newid dy stori gyda chyfleoedd gwaith ac awgrymiadau ar gyfer llwyddo.
Fe wnawn ni roi cyngor ac awgrymiadau wrth i chi chwilio am eich swydd gyntaf, mynd yn ôl i fyd gwaith, neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa. Fe wnawn ni eich helpu yn y gwahanol gamau wrth i chi chwilio am waith, gan gynnwys gwella eich techneg mewn cyfweliad ac ysgrifennu CV effeithiol.
Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.
Paratoi ar gyfer swydd

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.
Dod o hyd i swyddi gwag

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.

Cewch wybod sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swydd a sut i wneud eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn broffesiynol.

Chwilio a gwneud cais am brentisiaethau yng Nghymru.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Cymorth wedi'i deilwra

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.

Edrych ar eich opsiynau ar ôl i chi adael yr ysgol neu'r coleg.

7 cam tuag at newid gyrfa: edrychwch ar y manteision a'r anfanteision a phwysigrwydd gwella'ch sgiliau chwilio am swydd.

Cewch wybod am eich camau nesaf wrth ddychwelyd i'r gwaith, gan gynnwys cynllunio gyrfa, dewisiadau a pharatoi at swydd.

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Cael help i benderfynu beth i'w wneud ar ôl gadael yr ysgol. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau, gan gynnwys prentisiaethau, hyfforddiant, cael swydd, addysg bellach a mwy.

Dewch i wybod am beth rydych chi'n dda, gan gynnwys eich sgiliau a rhinweddau eich personoliaeth, yr hyn sy'n eich cymell, a sut mae gwerthu'r rhain i gyflogwyr.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni