Gyda chymorth ei chynghorydd gyrfa, daeth Angela o hyd i swydd newydd a roddodd ei hyder yn ôl iddi.
Bu Angela, sy’n 55 oed ac o Gaerdydd, yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu am 16 mlynedd.
Oherwydd newidiadau yn ei gweithle, daeth yn anhapus yn ei rôl i’r pwynt lle’r oedd hi “ddim yn edrych ymlaen at fynd i mewn”. Dechreuodd ei llesiant emosiynol ddioddef.
Cysylltodd Angela â Cymru’n Gweithio i ofyn am gymorth. Trefnodd apwyntiad gyda Linda Thomas, cynghorydd gyrfa yng Nghaerdydd.
Dod o hyd i’r cam nesaf
Ar ôl bod yn yr un swydd am gyhyd, nid oedd Angela yn hyderus y gallai wneud unrhyw beth arall. Bu Angela a Linda yn archwilio gwahanol syniadau o ran swyddi gyda’i gilydd. Fe wnaethon nhw drafod pa sgiliau trosglwyddadwy y gallai Angela eu defnyddio mewn rôl newydd.
Anfonodd Linda fanylion swydd at Angela yr oedd hi’n meddwl y byddai’n addas iddi. Er ei bod hi’n ansicr ar y dechrau, penderfynodd Angela roi cynnig arni.
Dywedodd: “Helpodd Linda fi i lenwi’r ffurflen gais. Roedd hi mor galonogol, ac rydyn ni wedi gwneud popeth gyda’n gilydd gam wrth gam. Roedd hi’n hollol anhygoel. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud hebddi hi.”
Aeth Angela drwy ffug-gyfweliad gyda Linda i’w helpu i baratoi a thawelu ei nerfau.
“Atebodd Linda fy holl gwestiynau. Pob ‘beth os’.’Cadwodd mewn cysylltiad o’r cychwyn cyntaf ac roedd hi yno bob amser. Fedra i ddim ei chanmol hi ddigon.”
Aeth Angela am y cyfweliad a chael y swydd gyda Chyngor Caerdydd fel ‘Hyfforddwr Teithio Annibynnol’, a dechreuodd yn y swydd ym mis Mawrth 2025.
Dechrau newydd gyda hyder newydd
Mae Angela nawr yn gweithio gydag oedolion ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hi’n eu hyfforddi i deithio’n annibynnol i’r ysgol neu’r coleg gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd: “Mae’n ffantastig. Rwy’n hapus iawn. Mae’n rhoi llawer o foddhad pan welwch chi’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.
“Rwy’n teimlo fel y gallaf wneud unrhyw beth nawr. Ers i mi ddechrau yn y swydd hon, rydw i hefyd wedi bod ar gyrsiau newydd ac rwy’n dysgu pethau eraill ac yn ehangu fy addysg. Rwy’n hyderus ac yn teimlo’n well amdanaf fy hun.”
Cyngor i bobl eraill
Mae Angela bellach yn annog ei ffrindiau i geisio cymorth os ydyn nhw’n teimlo’n sownd: “Os gallaf i wneud hyn, gallwch chithau ei wneud. Mae’n rhaid i chi fod yn ddewr a chymryd y cam hwnnw.
“Fy nghyngor i? Ewch i Cymru’n Gweithio. Mae ganddyn nhw staff anhygoel. A pheidiwch â dal yn ôl os ydych chi’n teimlo’n anhapus gyda lle’r ydych chi. Dim ond chi a all newid pethau. Mae’n naid fawr ond mae mor werth chweil.”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Angela, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.