Roedd Ellie Curtis yn poeni y byddai awtistiaeth yn effeithio ar ei gyrfa yn y dyfodol. Ond mae hi nawr yn dangos i bobl anabl eraill pa mor wych y mae prentisiaeth yn gallu bod.
Ysbrydoliaeth i weithio gyda phlant
Roedd Ellie, sy'n ugain oed, ac o Rogiet, eisiau gweithio gyda phlant bach erioed. Roedd ei mam wedi bod yn gwarchod plant pan oedd Ellie yn blentyn, ac roedd hynny wedi'i hysbrydoli hithau.
Dywedodd Ellie: "Es i i'r coleg i astudio gofal plant, ond roeddwn i'n teimlo mai ychydig iawn o gefnogaeth oedd yna o ran fy anghenion dysgu ychwanegol - mae gen i awtistiaeth a dyslecsia - felly yn aml roeddwn i'n ei chael yn anodd gwneud popeth roedd y tiwtor yn gofyn inni ei wneud.
Dod o hyd i gymorth dysgu ychwanegol
"Yn yr ysgol, roedd gen i weithiwr cymorth roeddwn i'n gallu siarad ag ef os oeddwn i'n teimlo bod pethau'n anodd, neu os oedd angen mwy o amser arna i i ddeall a gweithio drwy fy nghyrsiau. Pan es i i'r coleg, dechreuais deimlo fy mod i ar fy mhen fy hun ac ar goll.
"Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gweithio gyda phlant bach, felly edrychais ar opsiynau eraill. Fe wnes i droi at ACT Training am gymorth, ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio i at brentisiaeth. Fe ddywedon nhw y byddai hyfforddiant yn y gweithle yn rhoi'r cymorth ychwanegol imi roeddwn i'n chwilio amdano."
Ymuno â busnes y teulu
Nid gweithio ym meithrinfa ei mam oedd cynllun Ellie, ond pan gafodd drafferth dod o hyd i brentisiaeth a oedd yn talu cyflog lle roedd yn byw, awgrymodd ei chynghorydd ei bod yn ystyried ymuno â busnes y teulu fel prentis cyntaf y feithrinfa.
Erbyn hyn, mae Ellie wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Gwaith Chwarae Lefel 3 ym meithrinfa Gofal Dydd Little Tigers yn Sir Fynwy. Yn ystod ei hyfforddiant, cwblhaodd Ellie nifer o gyrsiau ychwanegol hefyd a gweithio gyda phlant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.
Sgiliau newydd a dyrchafiad
Gan ddefnyddio'r sgiliau a enillodd drwy gyrsiau hyfforddi ychwanegol, ei phrofiad personol o anghenion dysgu ychwanegol a'i gwybodaeth am y maes, cafodd Ellie ddyrchafiad yn ddiweddar i fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Dywedodd Ellie: "O ddydd i ddydd, dw i'n gyfrifol am bob plentyn yn ein gofal sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Dw i'n gweithio gyda'r therapyddion lleferydd ac iaith, ynghyd â'r ymwelwyr iechyd, i greu cynlluniau datblygu unigol ar gyfer y plant."
Cam nesaf
Er mwyn datblygu ei sgiliau ymhellach, mae Ellie wrthi'n gweithio tuag at ei Phrentisiaeth Rheoli Lefel 5.
Aeth ymlaen i ddweud: "Gweithio gyda'r plant yw'r hyn dw i'n caru ei wneud fwyaf. Dw i'n teimlo fy mod i'n gallu bod yn esiampl iddyn nhw gan fy mod i wir yn deall sut mae arnyn nhw. Mae'n rhyfedd sut mae'r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd ata i gystal. Yn y feithrinfa, mae gyda ni un ferch sy'n aml yn ffrwydro, a neb yn gallu stopio'r peth, ond yr eiliad dw i'n mynd draw ati, mae fel pe bawn i wedi chwifio ffon hud, ac mae hi'n iawn o fewn munudau!
"Mae fy rôl i yn gallu bod yn heriol, ond mae'n dod â chymaint o foddhad hefyd. Fy nod yn y pen draw yw gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn unig, a dw i'n gobeithio y bydd fy nghymhwyster Lefel 5 mewn Rheoli yn agor drysau imi i gam nesaf fy ngyrfa."
Archwilio

Ennill cyflog tra'n gweithio a chael cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i swydd.

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Dewch o hyd i gymorth arbenigol i’ch helpu chi fynd yn ôl i’r gwaith os ydych yn anabl.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...

Mae Ben wedi adennill ei hyder trwy ddechrau prentisiaeth...

Mae cael profiad gwaith wedi arwain at brentisiaeth i Paige…