Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori David B

David

Daeth swyddog marchnata digidol o Fae Colwyn o hyd i'w swydd ddelfrydol ar ôl cael ei ddiswyddo gyda chymorth ReAct+ a Cymru'n Gweithio.

Yn wynebu colli swydd

Mae David Burnell, 63, bellach yn gweithio mewn rôl newydd i gwmni teithio golff moethus ar ôl colli ei waith yn gynharach eleni.

"Dwi bob amser wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar wefannau, ac roeddwn i wedi meithrin fy sgiliau ers dechrau'r 90au, ond doedd gen i ddim digon o hyder ac weithiau ro’n i’n amau fy sgiliau fy hun”.

Cael cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant

Ar ôl pwyso a mesur yr holl opsiynau, dewisodd David gwrs a fyddai'n ei helpu i ennill cymhwyster proffesiynol ym maes dadansoddi traffig ac ymgysylltu â gwefannau – cwrs a fyddai’n rhoi hwb i'w CV ac yn ei helpu i gael dealltwriaeth fwy trylwyr o'r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant.

"Roedd fy nghynghorydd gyrfaoedd yn gwybod pa gwrs fyddai’n rhoi’r cyfle gorau i mi, ac fe wnaethon nhw fuddsoddi ynof. Roedd teimlo fy mod i’n cael fy nghefnogi a bod gan bobl ffydd ynof yn bwysig tu hwnt ar adeg mor anodd, gan olygu fy mod i wedi gallu dod o hyd i swydd barhaol newydd yn gyflym.

"Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a sylweddoli mod i wedi bod yn tanbrisio fy hun. Dwi’n credu mai'r hyn sy'n wych am ReAct+ yw nad yw'n ddull gydag un ateb sy’n addas i bawb.

"Mae gen i nid yn unig swydd newydd nawr, ond dwi’n llawer hapusach, yn fwy hyderus yn fy sgiliau a dwi’n ffynnu yn fy rôl. Dwi wedi cael ail gyfle go iawn ar ôl colli fy swydd, diolch i'r gefnogaeth a gefais.

"Roedd cwrdd â chynghorydd gyrfaoedd mor fuddiol ac ro’n i'n teimlo bod gen i fentor gwych a oedd gyda fi bob cam. Pan fyddwch chi’n mynd trwy gyfnod o ansicrwydd, mae'n galonogol iawn cael arweiniad gan arbenigwyr gyrfa, felly byddwn yn annog unrhyw un mewn sefyllfa fel fi i estyn allan am gymorth”.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.