Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Dilly

Dilly yn ymarfer technegau coluro

Mae cael cymorth i ddechrau ei busnes ei hun wedi helpu Dilly i ddilyn gyrfa yn y maes harddwch.

Gadael yr ysgol

Pan adawodd Dilly yr ysgol yn gynt na'r disgwyl ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig Covid-19, fe ddilynodd lwybr gwahanol i'r rhan fwyaf o'i ffrindiau. Er eu bod yn bwriadu dechrau yn y brifysgol ym mis Medi, roedd Dilly yn teimlo nad hwn oedd y llwybr iawn iddi.

“Doeddwn i ddim yn teimlo mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud, a doeddwn i ddim eisiau treulio’r holl amser ac arian ar wneud rhywbeth nad oedd yn mynd i fy ngwneud i’n hapus.

“Dyw'r ffaith na wnes i fynd i’r brifysgol ar ôl gadael yr ysgol ddim yn golygu na fydd cyfle i mi wneud hynny pan fyddaf yn hŷn, os byddaf yn newid fy meddwl.”

“Roeddwn i'n teimlo y byddai'n well gennyf fwrw ati i wneud rhywbeth roeddwn i wir eisiau ei wneud!”

Dilyn gyrfa yn y maes harddwch

Roedd Dilly yn gwybod ei bod hi eisiau gweithio yn y diwydiant harddwch. Ar ôl methu â chael lle ar gwrs therapi harddwch lleol yn y coleg, cofrestrodd Dilly ar gyfer cwrs preifat.

Er i hwnnw gael ei ohirio oherwydd y cyfnod atal byr, cysylltodd Chloe, un o gynghorwyr Gyrfa Cymru â Dilly i weld sut roedd pethau'n mynd.

Siaradodd Dilly â Chloe am ei huchelgeisiau yn y maes harddwch a chafodd gyngor a chefnogaeth ganddi gyda'r camau yr oedd angen iddi eu cymryd nesaf.

“Roedd sgwrsio â Chloe fel cael math arall o gefnogaeth yn ychwanegol at fy rhieni, fel athro mewn ffordd. Roedd hi'n berson arall y gallwn i siarad â hi.”

Dechrau ei busnes ei hun

Roedd y ddwy yn cael sgyrsiau rheolaidd a rhoddodd Chloe help i Dilly gael mynediad at raglenni a fyddai’n cefnogi Dilly i ddatblygu ei busnes harddwch ei hun i ddarparu triniaethau aeliau a blew amrannau.

Roedd hyn yn cynnwys Sesiwn Ymchwilio i Fenter Ymddiriedolaeth y Tywysog, a arweiniodd at grant o hyd at £150, a gweminarau Bod yn Fos Arnoch Chi Eich Hun.

“Rwy'n ddiolchgar iawn i Chloe oherwydd heb yr help a roddodd i mi, fyddwn i ddim yn y sefyllfa rydw i ynddi nawr. Yn ogystal â'r gefnogaeth a'r atgyfeiriadau, rhoddodd ddarnau bach o gyngor i mi hefyd a oedd yn help mawr.

“Hefyd, dw i ddim yn credu y byddwn i yn y sefyllfa hon oni bai am Covid-19 - felly mae rhywbeth positif wedi dod ohono.”

Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad. Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni