Helpodd cymorth gyrfa Katy i wneud cais llwyddiannus am ei chwrs delfrydol yn y coleg.
Yn 15 oed, roedd Katy yn ansicr am ei dyfodol. Roedd hi'n gwybod o oedran ifanc ei bod am ddilyn gyrfa mewn chwaraeon.
Rhannodd Katy: “Ro’n i hefyd yn gwybod do’n i ddim eisiau aros i’r chweched dosbarth. Ro’n i eisiau newid golygfa, i wneud rhywbeth newydd.”
Creu cynllun
Wrth geisio arweiniad, trodd Katy at Claire, cynghorydd gyrfa ei hysgol, am gymorth.
Dywedodd Katy: “Ro’n i’n gwybod i ba gyfeiriad ro’n i eisiau mynd ond ro’n i’n teimlo’n sownd o ran lle i ddechrau. Gwnaeth Claire fy helpu i i archwilio fy opsiynau.”
Dangosodd Claire yr opsiynau amrywiol a oedd ar gael iddi i Katy, gan ddefnyddio adnoddau fel gwefan Gyrfa Cymru ac UCAS.
Gwnaethant ymchwilio i golegau a chyrsiau a oedd yn cyfateb i ddiddordebau Katy. Cafodd Katy ei denu ar unwaith at y syniad o astudio gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yng Ngholeg Loughborough.
Anfonodd Claire yr holl wybodaeth yr oeddent wedi'i chasglu at Katy a gwnaeth ei hannog i feddwl am yr opsiynau ac i siarad â'i rhieni.
Cymryd y naid
Cyfaddefodd Katy: “Cafodd fy rhieni eu synnu i ddechrau, ond daethon nhw’n gefnogol iawn.”
Ychwanegodd:“Roedd anogaeth Claire yn amhrisiadwy. Dywedodd hi wrtha’ i ble i ddechrau ac i fynd amdani. Roedd hi’n credu yndda’ i ac fe roddodd hynny hwb i’m hyder.”
Mynychodd Katy ychydig o ddigwyddiadau’r coleg i gwrdd â rhai pobl o'r ysgol a gweld yr athrawon.
Yn gyffrous am ei dyfodol, mae Katy yn bwriadu dilyn seicoleg chwaraeon neu wyddor chwaraeon yn y brifysgol, yn dibynnu ar ba faes y mae'n ei fwynhau fwyaf yn ystod ei hastudiaethau yn y coleg.
Dywedodd Katy: “Dwi’n llawer mwy brwdfrydig am fy nyfodol nawr. Do’n i erioed yn fath o berson i fod yn frwdfrydig am yr ysgol a’r coleg ond nawr dw i’n gyffrous iawn i weld beth mae’r cyfan yn ei gynnig.”
Syniadau terfynol
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, pwysleisiodd Katy bwysigrwydd ceisio cyngor a bod yn agored i gyfleoedd newydd.
“Roedd Claire yn anhygoel. Dwi’n annog pawb i siarad â’u cynghorydd gyrfa. Gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae hi'n argymell: “Cael ychydig o gyngor a gweld beth yw eich opsiynau. Bydda’n ddewr a cher am yr opsiwn gorau. Hyd yn oed os yw'n ymddangos yn frawychus.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn
Mae’r myfyriwr graddedig o Rydaman yn annog pobl ifanc i ystyried yn ofalus eu hopsiynau wrth gasglu eu canlyniadau eleni.
Darganfu Evelyn ei hangerdd am y cyfryngau diolch i athrawes ysbrydoledig yn ystod ei harholiadau TGAU a Safon Uwch.
Mae entrepreneur o Sir Benfro yn annog pobl ifanc i ystyried eu hopsiynau wrth gael eu canlyniadau yr haf hwn.