Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Joseff

Llun o Joseff

Helpodd y gefnogaeth gan gynghorydd gyrfa Joseff i deimlo’n hyderus ynglŷn â’i gamau nesaf.

Mae Joseff, 16, yn byw yn ardal Llandderfel. Roedd yn gwybod ei fod eisiau gwneud rhywbeth ym myd chwaraeon ond roedd yn ansicr ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Dywedodd: “Roeddwn i wedi dewis fy mhynciau TGAU, ond roeddwn i’n teimlo nad oedden nhw’n cyd-fynd â’i gilydd ac na fydden nhw’n arwain at unrhyw lwybr gyrfa penodol. Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud yn y coleg neu’r chweched dosbarth.”

Cael cymorth

Clywodd Joseff am Gyrfa Cymru pan ymwelodd Guto, y cynghorydd gyrfa â’i ysgol. Esboniodd Guto iddo sut y gallai helpu i ddewis cyrsiau a gwneud cais i’r coleg.  Bu’r ddau’n trafod diddordebau Joseff a sut y gallai gwahanol opsiynau cyrsiau gefnogi ei nodau. Helpodd hyn Joseff i benderfynu ar y cyfuniad cywir o bynciau ymarferol ac academaidd.

Dywedodd: “Helpodd Guto fi i wneud cais i’r coleg a dewis cwrs roeddwn i’n hapus iawn ag ef. Helpodd fi hefyd i siarad â’r coleg ynglŷn â sut y gallwn i wneud BTEC a Safon Uwch.”

Dewis y cwrs cywir

Dewisodd Joseff wneud Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon ochr yn ochr â Bioleg Safon Uwch. Roedd eisiau astudio chwaraeon mewn ffordd ymarferol, ond roedd hefyd angen y gofynion mynediad cywir ar gyfer prifysgol.

Dywedodd: “Roedd y BTEC yn fwy ymarferol ac roedd ganddo lai o arholiadau, sy’n addas i’r ffordd rydw i’n dysgu. Gwnaethon ni hefyd edrych ar ofynion mynediad ar gyfer y brifysgol roeddwn i eisiau mynd iddi a chynllunio sut allwn i gyrraedd yno.”

Gwneud cynllun

Parhaodd Joseff i gwrdd â Guto i helpu i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol. Gwnaethon nhw gynllun gyda’i gilydd yn seiliedig ar y graddau roedd Joseff yn disgwyl eu cael a’r hyn yr oedd ei angen arno ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd: “Gwnaeth i mi deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â’r hyn roeddwn i’n mynd i’w wneud mewn addysg bellach. Mae gen i gynllun clir nawr.”

Edrych tua’r dyfodol

Mae Joseff yn teimlo’n bositif am ei ganlyniadau a’i gamau nesaf. Mae’n gobeithio mynd i’r brifysgol ar ôl y coleg ond mae hefyd yn agored i archwilio opsiynau wrth iddo astudio.

Dywedodd: “Dwi’n credu y bydda i’n cael graddau da, ac dwi am weld pa gyfleoedd fydd yn agor i mi.”

Mae Joseff yn annog pobl ifanc eraill i gael cymorth os ydyn nhw’n ansicr.

“Roedd Guto yn gymwynasgar iawn ac atebodd fy holl gwestiynau mewn ffordd syml y gallwn i ei deall.”

Defnyddiwch y cymorth gan gynghorwyr gyrfa. Maen nhw’n gymorth mawr i ddeall pa lwybr gyrfa rydych chi am ei ddilyn neu sut i wneud cais i’r coleg neu’r chweched dosbarth."


Explore

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.