Llwyddodd Charlotte i fagu hyder unwaith eto gyda chymorth ei anogwr cyflogadwyedd a’i chynghorydd gyrfa.
Teimlo’n sownd
Roedd Charlotte wedi bod yn gweithio yn y sector gwirfoddol ers deunaw mlynedd. Roedd hi’n mwynhau cefnogi pobl, ond roedd hi wedi bod yn chwilio am rôl uwch ers peth amser. Ar ôl sawl cais aflwyddiannus, dechreuodd golli hyder.
Dywedodd, “Roeddwn i’n sownd mewn cylch o wneud cais - cael cyfweliad - cael fy ngwrthod. Roedd yn mynd yn rhwystredig ac yn effeithio ar fy llesiant.”
Cyfarfu Charlotte â’r anogwr cyflogadwyedd Thanuja Hettiarachchi pan ofynnwyd i Thanuja siarad â grŵp o geiswyr lloches yr oedd Charlotte yn eu helpu. Wrth iddi wrando ar Thanuja yn egluro sut mae hi’n helpu pobl i ddatblygu eu gyrfa, fe wnaeth rhywbeth daro deuddeg.
Eglurodd, “Wrth iddi siarad, roeddwn i’n teimlo fel ei bod yn siarad â mi. Es i ffwrdd a threfnu apwyntiad y diwrnod canlynol.”
Magu hyder
Mewn sesiynau un-i-un gyda Thanuja, archwiliodd Charlotte ei llwybr gyrfa, ei sgiliau, a chyfleoedd newydd nad oedd hi wedi meddwl amdanynt o’r blaen.
Dywedodd, “Doeddwn i erioed wedi dychmygu bod gen i unrhyw beth i’w gynnig i’r sector preifat na Llywodraeth Cymru. Ond wrth edrych ar swyddi gyda’n gilydd, agorodd fy llygaid i fy sgiliau fy hun a sut y gallwn eu defnyddio mewn meysydd eraill.”
Penderfynodd Charlotte drafod ei dyslecsia am y tro cyntaf. Dywedodd: “Rhoddodd Thanuja sicrwydd i mi na fyddai bod yn agored amdano yn fy rhoi o dan anfantais. Mewn gwirionedd, roedd yn golygu ei bod yn bosibl gwneud y broses yn fwy cyfartal ar fy nghyfer i.”
Fe wnaeth y cynghorydd gyrfa, Carly Havard, helpu Charlotte i wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol. Gyda chefnogaeth Carly, dysgodd am syndrom y ffugiwr a sut i baratoi’n well ar gyfer cyfweliadau.
Dywedodd, “Edrychais ar bobl roeddwn i’n eu hedmygu a sylweddolais nad oedd eu llwybr nhw at swyddi uwch wedi bod yn un unionsyth chwaith. Nid oedd gradd gan rai ohonynt. Roedd hyn yn agoriad llygad gwirioneddol.”
Roedd Charlotte yn anelu at adael ei swydd o fewn blwyddyn. Ehangodd ar ei chwiliad gyda chymorth ffrindiau a chynghorwyr.
Meithrin momentwm
Gyda chymorth Thanuja, anfonodd Charlotte chwe chais i mewn. Cafodd dri chyfweliad mewn naw mis. Rhannodd geisiadau drafft i gael adborth a theimlai’n fwy hyderus â phob cam.
Dywedodd Charlotte, “Rhoddodd adborth rhagorol i mi. Nodais fy nyslecsia ar y ffurflen ac roeddwn i’n teimlo’n barod i symud ymlaen.”
Fel addasiad rhesymol, cafodd Charlotte gyfle i gael golwg ar ei chwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Magodd hyder â phob cyfweliad.
“Roedd cael y cyfle i ymarfer ceisiadau a chael dau gyfweliad yn golygu fy mod wedi mynd i mewn i’r trydydd yn fwy hyderus a phenderfynol - ac yn y cyfweliad hwnnw yr oeddwn yn llwyddiannus.”
Y cam olaf
Llwyddodd Charlotte i gael swydd fel Uwch Arweinydd Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Allgymorth gyda Llywodraeth Cymru. Cafodd adborth rhagorol gan y panel. Fe ddywedon nhw wrthi ei fod wedi bod yn faes cystadleuol iawn.
Roedd hi’n falch o’r hyn a gyflawnodd. Wrth fyfyrio ar ei thaith, dywedodd Charlotte: “Rwy’n ddiolchgar am y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth a gefais gan fy nghyn-gyflogwr a’m helpodd i gymryd y cam nesaf hwn.
“Dechreuais lwyddo wrth i Thanuja wrando, gadael i mi grio ychydig a fy nghefnogi gydol y broses. Mae’r broses wedi sicrhau rôl newydd, werth chweil a chyffrous i mi o’r diwedd.”
I ddarganfod mwy, darllenwch y Cyfrifon Dysgu Personol, neu cysylltwch â Cymru’n Gweithio.
Archwilio
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.