Mae Catrin yn dilyn ôl traed ei theulu i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth.
Yn 16 oed yn unig, mae gan Catrin o’r Bala yng Ngogledd Cymru weledigaeth glir eisoes ar gyfer ei dyfodol. Gyda chefndir amaethyddol cryf, mae hi’n cyfuno ei chariad at ffermio a mecaneg mewn llwybr gyrfa sy’n ei chyffroi.
Darganfod ei chyfeiriad
Mae Catrin wedi helpu ar fferm ei theulu erioed, ond wythnos o brofiad gwaith mewn delwriaeth tractorau leol a daniodd ei diddordeb mewn dilyn y llwybr gyrfa hwn.
Dywedodd: “Dyna pryd y dechreuais i wir ymddiddori mewn peirianneg amaethyddol a meddwl amdano fel gyrfa, roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda’r mecanig a gweld sut roedd popeth yn dod at ei gilydd.”
Yn wreiddiol, roedd gan Catrin gynlluniau i deithio ar ôl ysgol, gan weithio ar ffermydd yn Seland Newydd ac Awstralia ond ar ôl mynychu diwrnod agored yng Ngholeg Glynllifon, newidiodd ei meddwl. Parhaodd i ddweud: “Sylweddolais fy mod eisiau aros yn agosach at adref ac astudio rhywbeth ymarferol felly roedd y cwrs Mecaneg Amaethyddol a Hwsmonaeth Da Byw yn teimlo’n iawn.”
Er bod ganddi syniad bras o’r hyn yr oedd hi eisiau ei wneud, mae Catrin yn rhoi’r clod i gynghorydd gyrfa ei hysgol, Guto, am ei helpu i gymryd y cam nesaf.
Dywedodd: “Helpodd Guto fi i ddod o hyd i goleg oedd y pellter cywir o gartref a rhoddodd yr hyder i mi wneud cais. Gwnaeth fy nghefnogi drwy gydol y broses ymgeisio a’m helpu i sicrhau fy lle.
Roedd cael rhywun i siarad ag ef am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i mi yn galonogol iawn ac yn gwneud i mi deimlo nad oeddwn i’n mynd trwy’r broses ar fy mhen fy hun.”
Helpodd y gefnogaeth honno i droi ei diddordeb yn gynllun ac mae hi bellach yn paratoi i ddechrau cwrs Peirianneg Amaethyddol Lefel 3 llawn amser yng Ngholeg Glynllifon.
Yn barod am yr hyn sydd nesaf
Mae Catrin newydd orffen ei harholiadau TGAU a rhagwelir y bydd yn cael canlyniadau cryf, gan gynnwys graddau B mewn Cymraeg, mathemateg, dylunio a thechnoleg, a Saesneg, ynghyd â theilyngdod mewn peirianneg. Ychwanegodd: “Unwaith i mi ddod i arfer â rhythm yr arholiadau, roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus ac yn ymdopi’n llawer gwell nag yr oeddwn i’n meddwl y byddwn i.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau cwrs ymarferol a fydd yn fy arwain at yrfa rwy’n angerddol amdani, a bydd yn gyffrous dilyn ôl traed fy nheulu hefyd.”
Gyda diwrnod y canlyniadau’n agosáu, mae Catrin yn teimlo’n hyderus ac yn gyffrous am yr hyn sydd o’i blaen. Gorffennodd drwy ddweud: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y coleg. Dw i wedi dod o hyd i rywbeth dw i’n ei fwynhau, a dw i’n barod i fynd amdani.”
Archwilio

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.