Roedd Allen yn gweithio sifftiau nos rhan-amser mewn siop fanwerthu ond nid oedd y rôl yn addas iddo. Gwnaeth ffrind argymell Cymru’n Gweithio iddo.
Y cam cyntaf
Ar ôl cysylltu, cafodd Allen apwyntiad gyda’r cynghorydd gyrfa, Suzanne.
Buont yn trafod anawsterau Allen gyda’i swydd bresennol, gan gynnwys opsiynau teithio cyfyngedig a’r ffaith nad oedd yn mwynhau’r rôl.
Ar ôl sgwrs am syniadau gyrfa Allen, gwnaeth Suzanne ei gynorthwyo i archwilio ei ddiddordeb mewn dod yn weithredwr wagen fforch godi.
Y llwybr i lwyddiant
Gwnaeth Suzanne helpu Allen i wneud cais am gwrs dysgu sut i yrru wagenni fforch godi. Cwblhaodd y cwrs a chafodd dystysgrif o fewn wythnos.
Wrth aros i ddod o hyd i’r rôl wagen fforch godi cywir, teimlai Allen ei bod yn syniad da iddo gael rhywfaint o brofiad mewn cynhyrchu.
Gyda chymorth, ymgeisiodd yn llwyddiannus am swydd gweithiwr cynhyrchu yn Village Bakery. Gwnaeth Suzanne helpu Allen i gwblhau ei CV a gwneud cais am y rôl.
Buont hefyd yn edrych ar gymwysterau Allen, ac atgyfeiriodd Suzanne ef at gwrs i gwblhau ei TGAU Saesneg a Mathemateg i wella ei ragolygon gwaith yn y dyfodol.
Cymorth pwrpasol
Mae cymorth Suzanne wedi’i bersonoli a’i deilwra i Allen. Mae ganddo nam ar y leferydd, ac mae Suzanne wedi ei gynorthwyo gyda hyn trwy ymuno â galwadau gyda chyflogwyr a thrwy ei helpu i fagu mwy o hyder.
Dywedodd Allen: “Ers i mi fod yn cyfarfod â Suzanne, mae hi wedi bod mor gymwynasgar.
“Pe na bawn i wedi cysylltu â Cymru’n Gweithio, byddwn yn dal yn sownd yn fy swydd flaenorol lle nad oeddwn yn hapus.
“Gwnaeth Suzanne fy helpu gyda cheisiadau, galwadau ffôn a chyfweliadau, ac mae wedi bod mor ddefnyddiol i mi.
“Mae fy iechyd meddwl wedi gwella cymaint, ac rydw i hefyd yn cael cymorth arall ar gyfer hyn.”
Edrych ymlaen
Gyda chymorth cyfredol Suzanne, mae Allen yn anelu at gyflawni ei uchelgeisiau ac ennill rôl gyrru wagen fforch godi.
Mae’n chwilio am gyfleoedd ac mae Suzanne wrth ei ochr i’w helpu gyda’i gamau nesaf.
Ychwanegodd: “Rwy’ mor falch fy mod i wedi dod i weld Suzanne. Roeddwn i’n teimlo’n sownd o’r blaen, ond mae hi wedi fy helpu i gyda chymaint.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.