Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jayne H

Jayne yn creu Gemwaith

Cafodd Jayne gymorth hyfforddiant cyn dechrau busnes gemwaith llwyddiannus.

Gwaith ansefydlog

Treuliodd Jayne y rhan fwyaf o’i gyrfa fel uwch-ddarlithydd mewn astudiaethau’r amgylchedd mewn prifysgol. Ar ôl ymddiswyddo’n wirfoddol, dechreuodd Jayne weithio yn sector yr amgylchedd.

Gyda’r math hwn o waith, bu’n rhaid i Jayne ddibynnu ar gontractau tymor penodol. Roedd yn ei chael hi'n anodd rheoli natur annibynadwy’r gwaith.

Eglurodd: “Roedd hi bob amser yn anodd neidio o swydd i swydd a pheidio â chael sicrwydd gwaith.”

Cafodd Jayne y syniad i ddechrau busnes, ar ôl iddi gymryd rhan mewn gweithdy gwneud gemwaith arian mewn gŵyl.

O hobi i fusnes

Wrth geisio cymorth gyda’i syniad newydd, trefnodd Jayne apwyntiad gyda chynghorydd gyrfaoedd Cymru’n Gweithio.

Cawson nhw sgwrs am syniadau Jayne a’r camau nesaf, a chafodd Jayne gymorth i wneud cais am gyllid ReAct+ i gael hyfforddiant gof arian. 

Cafodd Jayne ei hatgyfeirio at Fusnes Cymru. Cafodd wybodaeth a chyngor ar ddechrau busnes newydd, fel edrych ar gyllid a chychwyn arni.

Gan ddefnyddio ei sgiliau creadigol newydd, buddsoddodd Jayne mewn ychydig o offer, a dechreuodd werthu ei chynnyrch mewn ffeiriau crefftau cyn iddi gael cynnig lle mewn oriel.

Mae Jayne bellach yn gwerthu ei chynnyrch yn llwyddiannus mewn tair siop yn ogystal â'r oriel a’i siop ar-lein ei hun. Mae hi hefyd yn cynnal gweithdai gwneud gemwaith mewn gwyliau, gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd lle y dechreuodd y cyfan iddi, gan gyfuno ei phrofiad o addysgu â’i sgiliau gofaint arian.

Gwneud gwahaniaeth

Wrth fyfyrio ar y cymorth gan Gyrfa Cymru a’r busnes y mae hi wedi’i adeiladu, dywedodd Jayne: “Dwi wrth fy modd i fod yn weithiwr, ond dwi’n caru bod yn fos arnaf fi fy hun hefyd.

“Mae wedi fy helpu oherwydd dwi ddim yn dibynnu ar bob contract erbyn hyn. Er fy mod yn dal i weithio mewn rolau tymor penodol ym maes yr amgylchedd, ac yn mwynhau’r rheini, rwy’n teimlo y gallwn wneud hyn yn llawn amser pe bawn i’n dymuno gwneud hynny.

“Mae wedi rhoi mwy o ryddid a chyfle i mi fod yn greadigol iawn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried y celfyddydau a gweithio’n greadigol i gysylltu â Gyrfa Cymru ac edrych ar sut y gallwch chi ddefnyddio’ch creadigrwydd ar gyfer eich gyrfa.

“Gallwch chi wneud yr hyn rydych chi'n ei garu â'ch gwaith.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.