Yn 25 oed, mae Lowri o Aberhonddu eisoes wedi troi ei hangerdd yn fusnes llewyrchus.
“Roeddwn i eisiau gweithio i mi fy hun”
Ar ôl astudio tecstilau yn y brifysgol a gweithio yn y diwydiant am ddwy flynedd, sylweddolodd nad oedd swydd draddodiadol o naw i bump yn gweddu iddi. “Roeddwn i eisiau mwy o ryddid, mwy o hyblygrwydd a’r cyfle i ennill mwy wrth wneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau,” eglurodd.
Ym mis Ebrill 2024, lansiodd Lowri ei busnes dodrefn pwrpasol ei hun gyda chefnogaeth Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc gan Busnes Cymru. Mae hi bellach yn creu llenni, bleinds a deunyddiau dodrefnu meddal a wnaed i fesur i gleientiaid ledled Cymru a thu hwnt.
Dod o hyd i'w llwybr ei hun
Daeth llwybr Lowri i hunangyflogaeth o awydd i reoli ei dyfodol. Dywedodd: “Rwy’n credu bod llawer o bobl ifanc yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw aros nes eu bod nhw’n hŷn neu’n fwy sefydledig i ddechrau busnes. Ond os yw'r sgiliau a'r brwdfrydedd gennych chi, gallwch chi ei wneud nawr.”
Mae hi'n angerddol am annog eraill i archwilio entrepreneuriaeth yn gynharach mewn bywyd fel rhan o'r opsiynau sydd ar gael o dan Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru. “Mae cefnogaeth ar gael, does ond angen i chi ofyn amdani. Fyddwn i ddim lle rydw i heb y cymorth a ges i ar y dechrau.”
Edrych tua’r dyfodol
Mae Lowri eisoes yn meddwl am gam nesaf ei busnes. Gyda'r galw'n tyfu, mae hi'n bwriadu ehangu i glustogwaith, yn enwedig wrth i uwchgylchu ddod yn fwy poblogaidd. “Mae pobl wir eisiau rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn, ac rwy'n dwlu ar fod yn rhan o'r mudiad hwnnw. Mae'n ffordd wych o greu rhywbeth unigryw a chreadigol, sef yr hyn rwy'n angerddol amdano.”
Mae hi hefyd yn agored i'r syniad o gyflogi pobl yn y dyfodol. “Mae’n gyffrous meddwl y gallwn i greu cyfleoedd i eraill hefyd. Dyna rywbeth yr hoffwn ei wneud wrth i'r busnes dyfu.”
“Does dim rhaid i chi ffitio i ffordd pawb arall o wneud pethau”
Gyda diwrnod y canlyniadau’n agosáu, mae gan Lowri gyngor i bobl ifanc sy’n ystyried eu camau nesaf:
Does dim rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â phawb arall. Os oes rhywbeth rydych chi'n angerddol amdano, ewch amdani. Mae cefnogaeth ar gael, ac mae gennych chi amser i ddatrys pethau, felly peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi gael popeth yn ei le yn syth.”
Archwilio

Os ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun a'ch bod yn 25 oed neu'n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.