Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Darla

Darla

Daeth Darla o hyd i’w hyder a’i swydd ddelfrydol drwy Twf Swyddi Cymru+.

Tanio ei brwdfrydedd

Yn ddiweddar, cwblhaodd Darla, 17 oed o Gaerdydd, ei chymhwyster NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn Henderson and Co. fel Steilydd Iau.

Dywedodd Darla: “Doeddwn i ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol, ond rydw i wastad wedi bod yn berson creadigol. Penderfynais gwrdd â Cymru’n Gweithio i edrych ar fy opsiynau ac fe apeliodd Twf Swyddi Cymru+ ata i oherwydd y lleoliadau gwaith a’r hyfforddiant ymarferol a oedd wedi eu cynnwys yn eich dysgu.

“Bryd hynny, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy nyfodol, felly es i ambell ddiwrnod blasu i archwilio llwybrau gyrfa gwahanol. Roedd y cyrsiau a oedd ar gael yn amrywio o ofal plant i harddwch ac o adeiladu i ofalu am anifeiliaid, ond sylweddolais mai trin gwallt oedd yn mynd â’m bryd.”

Teimlo’n gyfforddus

Ar ôl cael ei chefn ati, roedd Darla wedi rhagori ar y rhaglen ac wedi profi’n gyflym i’w thiwtoriaid ei bod yn ddysgwr talentog ac ymroddedig.

Aeth Darla yn ei blaen i ddweud: “Roedd fy nhiwtor, Charlotte, yn hollbwysig o ran gwneud i mi deimlo’n gyfforddus ac yn dawel fy meddwl ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Roeddwn i’n nerfus pan ddechreuais y rhaglen am y tro cyntaf, ond treuliodd Charlotte lawer o amser yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau hanfodol cyn chwilio am waith.

“Yn ogystal â gweithio gyda mi i wella fy CV, byddai Charlotte yn cynnal cyfweliadau ffug gyda mi er mwyn i mi ddod i arfer ag amgylchedd bywyd go iawn. Roedd hyn yn help mawr gyda fy hyder ac roedd yn drobwynt enfawr i mi.

“Roedd fy nhiwtoriaid Twf Swyddi Cymru+ yn gweld fy mhotensial. Roedd pawb yn fy nhrin fel oedolyn, ac roeddwn i’n gallu dweud bod y rhaglen eisiau i mi lwyddo.”

Gwyliwch y fideo

Herio ei hun

Gyda'r gefnogaeth a gafodd, llwyddodd Darla i gael ei swydd yn Henderson and Co. yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae'n ffynnu fel Steilydd Iau.

Dywedodd: “Mae gweithio gyda Henderson and Co. wedi bod yn brofiad anhygoel. Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r cyngor mae’r steilyddion eraill yn ei roi i mi, ac rydw i eisoes wedi dysgu cymaint mewn cyfnod mor fyr. Pan nad ydw i gyda chleientiaid, rydw i naill ai wrth y dderbynfa, yn tacluso neu’n cyfrif stoc – rydw i wrth fy modd yn mynd i’r gwaith oherwydd does dim un diwrnod yr un fath!”

“Rydw i’n awyddus iawn i arbenigo mewn lliwio gwallt ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyfle i ymarfer gwahanol dechnegau – o liwiau bloc i balayage, ffoils ac aroleuadau. Fe wnes i hyd yn oed liwio gwallt cwsmer yn goch y diwrnod o’r blaen.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Eleni, bydd Darla yn hedfan i Budapest gyda Henderson and Co. i fynd i weithdy sioe ffasiynau.

Dywedodd: “Rydw i’n teimlo’n hynod o lwcus o fod yn mynd gyda’r tîm i sioe ffasiwn Kevin Murphy. Mae’n antur newydd arall ac yn gyfle i mi gael fy addysgu gan y dylanwadwyr a’r arbenigwyr gorau yn y diwydiant.”

Mae Darla hefyd yn gobeithio cael mwy o brofiad gwaith yn Awstralia cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu ei salon ei hun.

Aeth ymlaen i ddweud: “Rydw i’n gobeithio symud ymlaen gyda Henderson and Co., ac efallai mewn ychydig flynyddoedd y caf i hyd yn oed fynd i Awstralia i fyw a gweithio, ac i ddysgu mwy o dechnegau newydd. Ar hyn o bryd rydw i’n cymryd un dydd ar y tro, ond byddai’n wych sefydlu fy salon fy hun yn y pen draw.”


Rhagor o wybodaeth

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.