Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Polina

Polina

Cefnogodd Cymru'n Gweithio Polina i ddod o hyd i’w ffordd yn ôl i yrfa foddhaus ar ôl iddi wynebu diweithdra a heriau iechyd meddwl.

Roedd Polina, 37, yn wreiddiol o Fwlgaria, yn wynebu cyfnod anodd yn ei bywyd ar ôl i'r cwmni y bu'n gweithio iddo fel aelod o griw caban fynd i'r wal.

Symudodd i Gaerdydd pan oedd hi'n 30 oed i chwilio am swydd sefydlog o fewn y proffesiwn criw caban.

Llwyddodd i gael swydd dros dro ym maes cadw tŷ, ond cafodd ei diswyddo eto.

Yn dilyn hynny, dioddefodd Polina o iselder a gorbryder, a oedd yn ei hatal rhag teimlo'n barod i ailymuno â'r gweithlu am tua dwy flynedd.

Cefnogaeth CV a chyfweliad

Daeth Polina ar draws taflen o'i chanolfan waith leol a oedd yn sôn am Cymru’n Gweithio. Ymwelodd â'u swyddfa yng nghanol y ddinas i geisio cymorth gyda'i CV.

Dywedodd Polina: “Bryd hynny, nid oedd gliniadur gen i ac roeddwn i angen cymorth i lunio fy CV yn iawn i sicrhau y byddwn yn cael fy ngwahodd am gyfweliad.”

Cafodd Polina gymorth gan Linda Thomas, cynghorydd gyrfa gyda Cymru’n Gweithio, i ddiweddaru ei CV a’i deilwra ar gyfer rolau criwiau caban.

Anfonodd Polina ei CV, ac yn fuan cynigiwyd cyfweliad iddi ar gyfer Wizz Air. Cysylltodd hi â Cymru'n Gweithio eto a gofynnodd am ffug-gyfweliad.

Dywedodd: “Gwnaeth Linda greu'r amgylchedd i wneud i mi deimlo fy mod i’n cael cyfweliad go iawn. Wedi hynny, cefais neges e-bost yn manylu ar sut wnes i a beth oedd angen i mi weithio arno.

"Y gefnogaeth a'r ffug-gyfweliad oedd y ddau brif beth wnaeth fy helpu i fagu fy hyder."

Cyrraedd ei nodau

Cafodd Polina swydd fel aelod o griw caban ar gyfer Wizz Air. Mae hi bellach wedi setlo'n hapus yn y rôl, hyd yn oed ar ôl iddi gael ei hail-leoliad.

Dywedodd hi: “Rydw i wedi gorfod ail-leoli ers hynny oherwydd bod canolfan Caerdydd wedi cau, ond rwy'n parhau i weithio fel gwasanaethydd caban. Gwnes i ddilyn fy mreuddwyd a wnes i ddim rhoi'r gorau iddi, hyd yn oed ar adegau anodd. Rydw i nawr lle roeddwn i wastad eisiau bod.”

Myfyrio ar y daith

Wrth edrych yn ôl ar y gefnogaeth a gafodd, dywedodd Polina: “Roedd Linda yn gefnogol ac yn ofalgar iawn. Roedd yn teimlo fel petai hi'n mynd trwy'r sefyllfa hon gyda mi, felly doeddwn i ddim yn teimlo'n unig.”

“Hoffwn ddiolch i Linda a’i thîm am y cymorth maen nhw wedi’i roi i mi sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant rwy’n ei fwynhau heddiw.”

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio bod fy stori yn helpu o leiaf un person. Nid y stori orau i'w hadrodd yw hi, ond mae'r diwedd yn dda. Rwy’n teimlo’n llawer gwell nawr bod gen i fy swydd ddelfrydol ac nad ydw i bellach yn cael trafferth gyda diweithdra.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Sut mae ysgrifennu CV

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.