Rhoddodd cyfarwyddyd gyrfaoedd yr hyder i Finley wneud cais am ei gwrs delfrydol yn y brifysgol.
Dod o hyd i’w angerdd
Ar ôl i Finley orffen yn yr ysgol, roedd yn gweithio yn siop bysgod a sglodion ei deulu yng Nghricieth, gogledd Cymru.
Penderfynodd gymryd peth amser yn rhydd a dechrau teithio’r byd. Yna penderfynodd symud i Ganada ddiwedd 2023.
Aeth ychydig fisoedd heibio ond nid oedd yn teimlo’n gartrefol oherwydd ei fod yn byw yn rhy bell o’r môr. Sylweddolodd fod ganddo gysylltiad cryf â’r môr a bywyd gwyllt y môr.
Ym mis Mai 2024, penderfynodd Finley ei bod yn bryd iddo ddychwelyd yn ôl i Gymru. Dywedodd: “Roeddwn i’n cael trafferth gyda’r syniad o ddychwelyd i fy hen swydd. Roeddwn i’n teimlo’n ansicr ynghylch fy nghamau nesaf, ac roeddwn i’n teimlo’n gaeth.”
Penderfynu ar y camau nesaf
Roedd Finley’n benderfynol o newid pethau er gwell. Dywedodd: “Roeddwn i’n credu y byddwn i wir yn hoffi mynd i’r brifysgol. Rwyf bob amser wedi meddwl am y peth yng nghefn fy meddwl, ond nid wyf erioed wedi cael y cymhelliant na’r hyder hwnnw ynof fy hun i wneud hynny mewn gwirionedd.”
Siaradodd Finley â ffrind sy’n astudio ffotograffiaeth y môr a hanes natur yng Nghernyw. Roedd y cwrs yn swnio’n berffaith, ond roedd Finley yn ansicr a oedd y brifysgol yn benderfyniad cywir iddo.
Anogodd ei dad ef i gael cyfarwyddyd gyrfa.
Cyfarwyddyd gan Gyrfa Cymru
Cyfarfu Finley â Helen Roberts, cynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio. Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi’n bosib i mi fynd i’r brifysgol oherwydd fy ngraddau. Es i’r apwyntiad gyda meddwl agored, gan feddwl o leiaf i mi rhoi cynnig arni. Ond roedd Helen yn wirioneddol anhygoel. Dywedodd hi, os oeddwn i am fynd i’r brifysgol, rhaid i ni geisio ein gorau glas i wneud hynny, a pheidio â’i ddiystyru ar unwaith a dilyn y llwybr hawdd.”
Cafodd Finley ei syfrdanu ar unwaith gan ei hanogaeth a’i chred yn ei botensial.
Arweiniodd Helen Finley drwy’r broses ymgeisio i’r brifysgol. Helpodd hi ef i ddeall gofynion mynediad, bodloni terfynau amser, ac aros ar y trywydd cywir. Rhoddodd eu sesiynau wythnosol gymhelliant iddo ddilyn ei freuddwyd.
Dywedodd Finley: “Roedd hi’n fy sbarduno i ac yn sicrhau fy mod i’n gwneud y pethau roedd angen i mi eu cwblhau ac nad oeddwn i’n mynd ar gyfeiliorn. Doeddwn i ddim eisiau ei siomi trwy beidio â gwneud y pethau roedd angen i mi eu gwneud.
“Roedd yr hyder hwnnw gan rywun nad oedd hyd yn oed yn fy adnabod fel chwa o awyr iach. Roedd hi mor garedig. A rhoddodd hynny hyder i mi ynof fy hun.”
Bywyd prifysgol
Diolch i’r gefnogaeth a gafodd, cafodd Finley le ym Mhrifysgol Falmouth. Mae bellach yn astudio ei ail dymor o ffotograffiaeth y môr a hanes natur.
Cyfaddefodd: “Mae’n waith caled mynd yn ôl i fyd addysg, yn enwedig bod mewn ystafell ddosbarth gyda myfyrwyr iau.
“Ond mae wedi bod mor werth chweil. O’r diwedd rydw i’n astudio rhywbeth rydw i’n teimlo’n angerddol amdano.”
Cyngor i eraill
Mae Finley’n annog pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i beidio â bod ofn breuddwydio’n fawr.
Archwilio
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.