Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Kit

Kit y technegydd beics yn sefyll wrth feic o flaen We Cycle

Darganfyddodd Kit nad yw hi byth yn rhy hwyr i droi eich diddordeb yn yrfa.

Amser Newid

Roedd Kit o Gonwy wedi dechrau syrffedu ar ei waith fel goruchwyliwr domestig mewn cartref gofal yn ystod 2019.

Eglurodd: “Roedden ni bob amser yn brin o staff gofal, ac roeddwn yn teimlo’n rhwystredig am nad oeddwn i’n gallu gwneud mwy i helpu, felly dyna pryd y penderfynais ofyn a allwn i symud ymlaen i ochr ymarferol pethau.”

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, daeth Kit yn aelod o’r tîm gofal ym mis Mawrth 2020, a oedd yn cyd-daro â’r cyfnod lle’r oedd pandemig COVID-19 yn gwaethygu. Yn anffodus, gan ei fod wedi dal y feirws ac yn dioddef effeithiau COVID hir, roedd dychwelyd i’r gwaith yn anodd.

Dywedodd Kit: “Roeddwn i’n teimlo’n swrth ac yn flinedig drwy’r amser, ac roedd mwy o bwysau nag erioed ar yr holl staff. Roeddwn i’n teimlo bod yr adferiad ar ôl dioddef effeithiau COVID hir yn heriol iawn.”

Colli un o’i gleifion oedd yr ergyd olaf i Kit, a oedd wedyn yn gwybod ei bod yn amser iddo newid gyrfa.

Cyfeiriad Newydd

Gan ei fod wedi llwyr ymlâdd ac yn barod am gyfeiriad newydd, ymddiswyddodd Kit a phenderfynodd gymryd amser i orffwys ac ystyried ei opsiynau.

Fe’i cyflwynwyd i Cymru’n Gweithio i gael cyngor a chymorth am ddim ar rai o’r opsiynau a oedd ar gael iddo. Un llwybr a apeliodd at Kit oedd y cynllun gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’u ddylunio i helpu pobl i uwchsgilio a dod o hyd i waith – cynllun a oedd yn caniatáu iddo droi ei ddiddordeb yn yrfa bosibl.

Dywedodd Kit: “Mae beics wedi bod o ddiddordeb mawr i mi erioed, ac fe wnes i fwynhau’r amser a dreuliais yn fy sied yn eu trwsio. Roedd y cynllun hwnnw’n bwysig iawn i mi gan ei fod yn rhywbeth y gallwn ganolbwyntio arno ac roedd yn ffordd wych o ymlacio.”

Rhywbeth mwy na hobi

Gyda chymorth gan Cymru’n Gweithio, cofrestrodd Kit ar gwrs Peirianneg Beics ar lefel 2 NVQ. Roedd ganddo ei amheuon ar y dechrau, gan fod hwn lwybr gwbl wahanol o gymharu â’i yrfa flaenorol.

Dywedodd: “Doeddwn i ddim eisiau gwastraffu arian y llywodraeth ar gwrs na fyddai’n arwain at yrfa. Doeddwn i ddim yn gweld hynny’n rhywbeth teg i’w wneud.”

Fodd bynnag, roedd cyfweliad gyda’r siop feics fwyaf yng Ngogledd Cymru wedi caniatáu i Kit ymrwymo i’r cwrs. Yn y pen draw, cynigiwyd swydd iddo yn We Cycle.

Eglurodd Kit: “Roedd astudio'r cwrs yn agor cymaint o ddrysau. Roeddwn i wrth fy modd gyda beics pan oeddwn i’n ifanc, ond daeth bywyd i hawlio fy sylw. Fodd bynnag, roedd y beics bob amser yn y cefndir. Erbyn hyn rydw i'n ei wneud fel swydd amser llawn, bum niwrnod yr wythnos."

Diolch i’r help gan Cymru’n Gweithio, llwyddodd Kit i droi’r hobi a’i helpodd drwy un o’r cyfnodau anoddaf yn ei fywyd yn yrfa.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn bleser. Mae dysgu mor bwysig, gan nad ydych chi’n gwybod pa gyfleoedd y gallai eu cynnig i chi.”


Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni