Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Peter

Peter

Mae Peter yn defnyddio profiadau bywyd i ddechrau ail-lunio ei yrfa.

Rhagori mewn arlwyo

Mwynhaodd Peter, 53 oed, sy’n byw yn Aberhonddu, yrfa lawn ac amrywiol yn y diwydiant arlwyo am dros 30 mlynedd.

Mae’n gogydd arobryn, ac wedi ennill statws prif gogydd yn un o dafarndai gorau Cymru. Mae wedi gweithio ledled y DU ac yn fwy diweddar roedd yn berchennog tai bwyta yng Nghymru.

Gwnaeth Peter ei naid gyntaf o fod yn weithiwr i ddechrau ei fusnes ei hun yn 2017, pan ddaeth cyfle i brynu busnes sefydledig.

Ffynnodd y busnes, ac er bod yr oriau’n hir, a’i fod yn ceisio cydbwyso gweithio gyda theulu ifanc, mwynhaodd Peter y profiad cyffredinol o reoli ei amser a’i fusnes.

Cafodd Covid-19 a’r argyfwng costau byw effaith fawr ar y diwydiant bwyd, ac yn 2022 caeodd y busnes. Cafodd hyn effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl Peter, a dechreuodd deimlo ar goll yn llwyr, yn ariannol ac yn emosiynol.

Gofyn am gefnogaeth gyrfa

Doedd Peter erioed wedi cael cymorth gyrfa o’r blaen, ac nid oedd wedi bod i ganolfan waith tan 2023, pan gafodd ei gynghori i ymweld â’i ganolfan leol.

Dywedodd Canolfan Byd Gwaith Aberhonddu wrth Peter am y cymorth ariannol y gallai ei gael pan oedd yn ddi-waith a’r cymorth cyflogadwyedd y gallai ei gael gan Gyrfa Cymru.

Cyflwynwyd Peter i Jon, cynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio yn Gyrfa Cymru, a thrwy sesiynau un-i-un fe ddechreuon nhw edrych ar opsiynau Peter.

Wrth feddwl yn ôl ar yr amser hwnnw, dywed Peter, “Roeddwn i ar bwynt eithaf isel ac yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Roeddwn i’n ansicr o’m camau nesaf a doeddwn i ddim yn siŵr ai chwilio am swydd arall ym maes arlwyo oedd y cam iawn i mi, ond roeddwn i’n teimlo allan o gysylltiad llwyr ag addysg a dysgu sgiliau newydd.”

Wrth fyfyrio ar ei yrfa a’i fywyd cynnar, dywedodd Peter, “Y byd arlwyo yw’r unig un rydw i’n gyfarwydd ag ef. Gadewais yr ysgol yn 16 oed ac es i’r coleg i astudio technoleg bwyd, cyn mynd yn syth i’r diwydiant arlwyo.”

“Rwy’n ddyslecsig, a doeddwn i erioed yn ddisglair yn yr ysgol. Dwi wastad wedi bod ag angerdd am greu bwyd da. Rwyf hefyd yn ei chael hi’n hawdd cyfathrebu’n dda â phobl, ac mae hynny’n bwysig ym maes arlwyo gan ei fod yn ddiwydiant sy’n ymwneud â phobl yn bennaf.”

Symud ymlaen a dechrau gyrfa newydd

Gan weithio gyda’i gilydd, edrychodd Jon a Peter drwy’r broses o beth i’w wneud nesaf. Roedd hyn yn cynnwys dysgu am sgiliau trosglwyddadwy Peter a sut i’w defnyddio i fynd i faes gwaith arall.

Wrth siarad am y cymorth gyrfa a gafodd, dywedodd Peter, “Roedd yn help i ddechrau creu darlun ohonof fy hun, pwy oeddwn i a beth oedd angen i mi ei ddysgu i symud ymlaen.

“Dechreuodd y broses gyfan wneud i mi deimlo’n llawer mwy cadarnhaol amdanaf fy hun a’m galluoedd. Yn raddol dechreuodd fy iechyd meddwl wella.”

Yn ystod y sesiynau, bu Jon yn trafod y potensial i Peter ddefnyddio ei brofiad ei hun o iechyd meddwl, a’i sgiliau cyfathrebu presennol i symud ymlaen i yrfa yn helpu eraill i ymdopi â sefyllfaoedd tebyg.

Gyda chymorth Jon, gwnaeth Peter gais a llwyddodd i gael lle ar brentisiaeth y GIG i hyfforddi i fod yn nyrs. Mae’r cwrs tair blynedd wedi’i ariannu'n llawn ac yn cynnwys astudio a hyfforddiant ymarferol yn y swydd.

Pan fydd Peter wedi cymhwyso’n llawn, bydd yn nyrs iechyd meddwl.

Dywedodd Peter, “Roedd Jon, fy nghynghorydd gyrfa mor dda ac mor gefnogol. Rwyf wedi deall nad yw’n rhy hwyr i ddechrau o’r newydd a dechrau rhywbeth newydd. Dydych chi byth yn rhy hen ac mae gan fywyd lawer i'w roi o hyd.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Peter, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.


Archwilio