Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Lia

Lia

Roedd angen cymorth ar Lia i ddod o hyd i swydd newydd a oedd yn caniatáu cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith.

Wynebu colli swydd

Mae Lia yn 42 ac yn byw ym Mhont-y-pŵl, de-ddwyrain Cymru gyda’i theulu.

Roedd Lia wedi bod yn gweithio fel rheolydd gweithrediadau ers saith mlynedd nes iddi golli ei swydd ym mis Hydref 2022. Roedd Lia wedi gweithio ym maes adnoddau dynol (AD) cyn hynny.

I Lia, roedd colli swydd yn teimlo fel ei bod yn sownd ar groesffordd. Roedd ei swydd, er yn llawn amser, yn gweithio gartref gydag ymweliadau chwarterol â Llundain. Roedd hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd iddi. Gweithiodd hyn yn dda ar gyfer ei bywyd teuluol, sy'n cynnwys cefnogi plentyn ag anghenion ychwanegol.

Wrth feddwl yn ôl am golli ei swydd, mae Lia'n cofio, “Roedd angen i mi feddwl yn greadigol ac efallai symud i mewn i ddiwydiant neu rôl wahanol sy’n cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith, gan gynnwys gyda’r nos neu ar benwythnosau. I ddechrau, meddyliais am symud i weithio ym maes gofal iechyd”.

Cyrchu cymorth

Cysylltodd Lia â'r Ganolfan Byd Gwaith. Oherwydd ei bod yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd, roedd yn gymwys i ddechrau hawlio Lwfans Ceisio Gwaith.

Er mwyn helpu i ddod o hyd i swydd a oedd yn addas iddi, roedd angen cefnogaeth cyfarwyddyd ac adolygiad gyrfa ar Lia, felly cyfeiriodd y Ganolfan Byd Gwaith Lia at Cymru’n Gweithio.

Dywed Lia, “Roeddwn i wedi clywed am Gyrfa Cymru, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth oedden nhw'n ei wneud. Doeddwn i ddim wedi clywed am wasanaeth Cymru’n Gweithio”.

Yn hytrach na sesiwn wyneb yn wyneb mewn canolfan gyrfa, dewisodd Lia gael cymorth ar-lein drwy Teams. Roedd hyn yn rhoi'r hyblygrwydd i Lia yr oedd ei angen arni o hyd wrth iddi fynd drwy'r broses chwilio am swydd.

Dechreuodd y cynghorydd gyrfaoedd, Rhianne, sydd wedi’i lleoli yn Nhorfaen, weithio gyda Lia a gyda’i gilydd aethant drwy’r adolygiad gyrfa. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar brofiad, set sgiliau, a dyheadau Lia, tra'n ystyried unrhyw rwystrau a wynebai.

Siaradodd Lia am yr angen i weithio’n hyblyg, a’i syniadau am weithio yn y sector gofal. Oherwydd bod Lia wedi colli ei swydd, gallai gael mynediad at gyllid ar gyfer hyfforddiant. Buont yn ymchwilio i'r opsiwn o NVQ mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Awgrymodd Rhianne y dylai Lia gael asesiad seicometrig rhad ac am ddim, sy'n helpu i lunio dewisiadau gyrfa posibl. Ni ddangosodd gwaith gofal fel ffocws arbennig o gryf i Lia. Felly, gwnaethant benderfynu peidio â dilyn y llwybr gofal ymhellach. Yn lle hynny, roedden nhw'n chwilio am rolau tebyg o fewn AD.

Cyrchu bwletin swyddi Cymru'n Gweithio a dod o hyd i waith

Roedd yn anodd i Lia ddod o hyd i swydd ym maes AD a oedd yn lleol iddi. Awgrymodd Rhianne y dylai danysgrifio am ddim i fwletin swyddi Cymru'n Gweithio. Mae'r bwletin swyddi yn eich paru â swyddi sy'n lleol ac yn berthnasol.

Trwy'r bwletin swyddi, cafodd Lia ei pharu â swyddi posibl. Fodd bynnag, canfu fod angen cymwysterau ychwanegol arni ar gyfer rhai ohonynt yn ogystal â'r blynyddoedd o brofiad a oedd ganddi yn y diwydiant.

Daeth Lia o hyd i ddwy rôl ran-amser bosibl ym maes AD a oedd yn cyfateb i’w chymwysterau presennol. Gyda chefnogaeth ymgeisio a chyfweliad, llwyddodd Lia i gael cynnig un o'r swyddi.

Y rôl a dderbyniodd Lia yw cynorthwyydd AD rhan-amser, yn ei hardal leol. Mae hi'n mwynhau'r rôl ac eisoes yn gweld ei bod yn gweithio'n dda iddi a’i theulu.

Edrych tua'r dyfodol

Mae Lia yn awyddus i ennill cymwysterau ychwanegol a gydnabyddir gan y diwydiant ac mae'n bwriadu dechrau cwrs gyda'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, lefel 5 mewn rheoli pobl.

Wrth fyfyrio ar y cymorth gyrfaoedd a gafodd, meddai Lia, “Roedd cael rhywun gwybodus a diduedd i wrando arna i ac a oedd yn fy neall i mor bwysig. Fe wnaeth yr arweiniad a gefais i fy helpu i ddod o hyd i'm ffordd. Rydw i wedi gallu dod allan yr ochr arall a chyflawni’r canlyniad roeddwn i eisiau”.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Lia, gallwch archebu adolygiad gyrfa rhad ac am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.


Archwilio

Stori Natalie

Cynorthwyodd cymorth gyrfa Natalie i droi’r diddordeb angerddol yr oedd ganddi yn ystod ei phlentyndod yn realiti gyrfa yn ei phum degau.

Stori Lee

Cafodd Lee adolygiad gyrfa i'w helpu i bontio o'r fyddin.

Adolygiad gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.