Cafodd Lee adolygiad gyrfa i'w helpu i bontio o'r fyddin.
Dechrau gyrfa yn gynnar
Dechreuodd Lee ei yrfa yn y fyddin yn 16 oed a gwasanaethodd yn y Fyddin am 24 mlynedd.
Llwyddodd i gael hyfforddiant parhaus a dilynodd lawer o gyrsiau yn ystod ei yrfa filwrol. Helpodd hyn Lee i weithio ei ffordd i fyny drwy'r rhengoedd i rôl lefel uchel.
Ar hyn o bryd mae’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond cafodd Lee ei leoli mewn amryw o leoliadau ar draws y DU tra bu yn y fyddin.
Yn 41 oed, bydd Lee yn ymddeol o'r fyddin ac yn ymuno â'r gweithlu sifil.
Symud ymlaen o'r Fyddin a chael cymorth gyrfaoedd
Roedd Lee yn ymwybodol bod angen cymorth cyflogaeth arno pan gai ei ryddhau o'r Fyddin. Nid oedd ganddo CV cyfredol ac nid oedd ganddo ddarlun clir o'r llwybr yr oedd am ei dilyn nesaf.
Er nad oedd yn ymwybodol o Gyrfa Cymru, cafodd Lee ei gyflwyno i Gyrfa Cymru a gwasanaeth Cymru'n Gweithio gan ffrind. Edrychodd Lee ar-lein i ddarganfod mwy a chysylltodd trwy'r wefan.
Roedd gan Lee y dewis o dderbyn cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfan gyrfaoedd neu'n ddigidol a dewisodd y cymorth digidol. Fe'i cefnogwyd gan y cynghorydd gyrfa Kelly Smith sy’n gweithio yn y ganolfan gyrfaoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gan weithio gyda Kelly, cafodd Lee gyfarwyddyd gyrfaoedd unigol a oedd yn cynnwys cymorth gyda'i CV a cheisiadau yn ogystal â chymorth gyda chyfweliadau. Fel rhan o adolygiad gyrfa, cafodd Lee hefyd asesiad seicometrig am ddim, a wnaeth ei helpu i baru ei nodweddion â rolau a fyddai'n addas iddo.
Wrth siarad am y gefnogaeth a gafodd, meddai Lee, “Aeth yr adolygiad gyrfa â mi yn ôl at fy set sgiliau a’m helpu i nodi fy sgiliau craidd a sut y gallwn eu haddasu’n sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swyddi y tu allan i’r fyddin”.
Ymgeisio am rolau newydd ac edrych tuag at y dyfodol
Mae Lee eisoes wedi bod yn ymgeisio am rolau ac wedi llwyddo i ddod o hyd i waith yn barod ar gyfer pan fydd yn gadael y fyddin.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Lee, gallwch archebu adolygiad gyrfa am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Roedd angen cymorth ar Lia i ddod o hyd i swydd newydd a oedd yn caniatáu cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith.
Cynorthwyodd cymorth gyrfa Natalie i droi’r diddordeb angerddol yr oedd ganddi yn ystod ei phlentyndod yn realiti gyrfa yn ei phum degau.
Gweld sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu gyrfa.
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.