Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jei

Jei

Arweiniodd hunanholi at newid gyrfa i Jei.

Yn dychwelyd i'w dref enedigol

Yn wreiddiol o Sri Lanka, symudodd Jei i Ben-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru gyda’i deulu yn y 1980au pan oedd Jei yn blentyn ifanc.

Symudodd Jei i ffwrdd o Gymru yn ei arddegau hwyr, i astudio yn y brifysgol, a dechreuodd ar yrfa mewn gwerthu corfforaethol ac ymgynghori yn y cyfryngau newyddion a diwydiannau gwasanaethau ariannol. Am dros 30 mlynedd, bu Jei yn gweithio gyda sefydliadau rhyngwladol, a thrwy ei swydd roedd yn mwynhau teithio'n fyd-eang, i Lundain, Ewrop ac Asia.

Penderfynodd Jei gymryd seibiant yn ystod haf 2023, ac yn lle chwilio am rôl debyg, penderfynodd ddychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr a manteisio ar y cyfle yn 50 oed i wneud rhywfaint o hunanholi ar ei gamau nesaf.

Wrth feddwl yn ôl am yr amser hwn, dywed Jei, “Roeddwn i'n gofyn i mi fy hun sut roeddwn i eisiau i'm bywyd edrych. Roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau bod ar gromlin ddysgu newydd ond doeddwn i ddim yn siŵr ble i wneud hynny.

Roeddwn hefyd yn ymwybodol bod byw ar fy nghynilion yn golygu y byddai angen i mi wneud rhai penderfyniadau cyn bo hir am yr hyn yr oeddwn am ei wneud yn fy ngyrfa.”

Ymwybyddiaeth o Cymru'n Gweithio

Nid oedd Jei yn siŵr ble i droi ond cafodd ei gyfeirio at ei Ganolfan Waith leol.

Cyfeiriodd y Ganolfan Waith Jei at Gyrfa Cymru a gwasanaeth Cymru'n Gweithio am gymorth mwy arbenigol. Rhoddwyd Jei mewn cysylltiad â'r cynghorydd gyrfa Mike Crowell, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Gyrfaoedd Pen-y-bont ar Ogwr. Dechreuodd Jei gael cymorth gyrfa ym mis Tachwedd 2023.

Dywed Jei, “Rwy’n cofio Gyrfa Cymru ers pan oeddwn yn yr ysgol, ond doeddwn i ddim yn gwybod y byddent yn gallu fy nghefnogi nawr yn fy sefyllfa bresennol o fod mewn cyflogaeth.”

Cychwyn ar daith gyrfa newydd

Yn ystod sesiynau un-i-un gyda Mike, roedd Jei yn gallu myfyrio ar ei yrfa hyd yn hyn, a thrafod ei feddyliau a’i syniadau ar gyfer pennod nesaf ei fywyd gwaith.

Dywed Jei, “Trwy siarad â Mike, dechreuais ddarganfod bod fy ngyrfa ym maes gwerthu ac ymgynghori wedi datgloi angerdd i fod yn fwy creadigol ac wedi datblygu at fod eisiau camu y tu ôl i’r camera.”

Gyda chymorth Mike a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, gwnaeth Jei geisiadau llwyddiannus i ddilyn nifer o gyrsiau cysylltiedig â gwneud ffilmiau a ariannwyd yn llawn yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol yng Nghaerdydd. Wedi’i ysbrydoli gan y cyrsiau hyn, gwnaeth Jei hunanariannu cwrs gwneud ffilmiau dogfen yn Llundain, gan arwain at ffilm fer yn darlunio bywyd teuluol a phwysigrwydd bwyd o fewn ei ddiwylliant.

Ers cynhyrchu'r ffilm ddogfen, mae Jei yn parhau i ddilyn cyrsiau perthnasol ac yn mynychu digwyddiadau rhwydweithio’r diwydiant. Mae hefyd wedi rhoi ei hun ymlaen ac wedi bod yn llwyddiannus yn gweithio ar nifer o setiau cynhyrchu ac i gwmnïau cynhyrchu.

Dywed Jei, “Fel mewn unrhyw ddiwydiant, mae angen i chi sicrhau eich bod chi ar gael a chynnig eich hun ar gyfer gwahanol gyfleoedd wrth iddynt ddigwydd.”

Mae Jei yn mwynhau dysgu a phrofi mwy yn barhaus trwy weithio ar aseiniadau amrywiol. Mae'n edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn y bennod newydd hon.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Jei, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.