Ar ôl ceisio cymorth gyrfaoedd, aeth JJ o ddiweithdra i fod yn swyddog diogelwch ffyniannus.
Wynebu diweithdra
Yn 18 mlwydd oed ac yn byw yn y Drenewydd, Powys, roedd JJ yn ei chael hi’n anodd sicrhau swydd ar ôl gorffen yn yr ysgol.
Llwyddodd i gael prentisiaeth dros dro gyda chwmni adeiladu cyn gweithio am ychydig amser gydag asiantaeth.
Pan drodd JJ yn 18 oed, cafodd ei hun yn ddi-waith. Dyna pryd y penderfynodd gysylltu â Gyrfa Cymru a gofyn am gymorth.
Cael cymorth gan Gyrfa Cymru
Meddai JJ: “Roeddwn i’n meddwl nad oedd angen cymorth arna i ac y gallwn ddod i ben ar fy mhen fy hun.
“Ond fe ddaeth i’r pwynt lle roeddwn i’n sownd mewn rhigol, a doeddwn i ddim yn gallu dod allan ohono, felly es at Gyrfa Cymru a chael cymorth hollol wych. Gwnaethon nhw fy rhoi yn union ar y llwybr yr oeddwn ei angen.”
Eisteddodd y cynghorydd gyrfaoedd, Karen Rodenburg, gyda JJ a siaradon nhw am yr hyn yr hoffai ei wneud. Cwblhawyd hefyd y Cwis Paru Gyrfa gyda’i gilydd i ddarganfod pa swyddi a allai fod yn addas iddo.
Meddai JJ: “Roedd wir yn help mawr. Roedd yn dda cael manylion am swyddi penodol, fel pa mor boblogaidd ydyn nhw neu faint o alw sydd arnyn nhw a beth yw’r cyflog.”
Archwiliodd JJ amryw o opsiynau gyrfa a darganfod bod ganddo frwdfrydedd am y diwydiant diogelwch. Hefyd, rhoddodd Karen gymorth i JJ i ddiweddaru a Creu CV.
Dywedodd: “I ddechrau, roedd fy CV yn wael iawn. Eglurodd Karen beth oedd angen ei nodi ac ymhle. Fe wnaeth hi’r cyfan gyda mi.
“Cyn gynted ag y rhoddais fy CV newydd ar Indeed, dechreuodd pethau wella.”
Dechrau gyrfa newydd
Daeth JJ o hyd i waith gyda chwmni diogelwch, G4S. Cafodd hyfforddiant pellach, enillodd y cymwysterau angenrheidiol i weithio yn y sector diogelwch a chynigiwyd swydd barhaol iddo fel swyddog diogelwch.
Pan holwyd ef am ei swydd newydd gan ofyn am ei gyngor i eraill sy’n wynebu heriau tebyg, dywedodd JJ: “Mae’n rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch.
“Peidiwch â rhoi’r gorau iddo a siaradwch â’ch teulu. Bu’n amser hir heb i mi ddweud wrth neb sut roeddwn i wir yn teimlo am fod yn ddi-waith.
“Cysylltwch â Gyrfa Cymru neu ewch i’ch canolfan gyrfaoedd leol a siaradwch â nhw. Byddan nhw’n eistedd gyda chi, byddan nhw’n gwrando, byddan nhw’n rhoi gofal i chi, a gallwch chi symud gam wrth gam gyda nhw.”
“Dydych chi byth yn gwybod beth fydd yn eich wynebu nesaf.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.