Helpodd cymorth hyfforddiant Lorna i ddechrau busnes bach yn creu nwyddau allan o wlân.
Mae Lorna yn byw mewn ardal wledig y tu allan i Sir Gaerfyrddin. Bu’n gweithio fel therapydd am flynyddoedd lawer. Daeth yn ddi-waith a dechrau chwilio am syniadau ar gyfer ei chamau nesaf.
Chwilio am gyfeiriad newydd
Ystyriodd Lorna sefydlu ei busnes therapi ei hun ond roedd y syniad o roi cynnig ar rywbeth newydd hefyd yn apelio ati. Clywodd am Gyrfa Cymru gan ganolfan waith leol yng Nghaerfyrddin.
Trefnodd apwyntiad gyda Lara, cynghorydd gyrfa, a gofyn am gyngor.
Dywedodd Lorna: “Roeddwn i’n chwilio am waith ac yn awyddus i gael rhywfaint o gymorth gyda gyrfaoedd, a phenderfynu a ddylwn i ddysgu sgil newydd neu gael ragor o hyfforddiant. Pan siaradais â Lara gyntaf, fe wnaethon ni drafod rhai syniadau busnes ac archwilio sut i roi rhywbeth newydd ar waith.”
Troi hobi yn yrfa
Cafodd Lorna a'i gŵr syniad i ddefnyddio gwlân o'u fferm fach. Roedden nhw eisiau helpu'r amgylchedd drwy ailddefnyddio gwlân.
Dywedodd, “Roedd Lara yn anhygoel. Roeddwn i’n bwriadu dilyn y llwybr therapi ac roedden ni'n siarad am hobïau ond pan siaradais am wlân, gwelodd hi pa mor frwdfrydig oeddwn i amdano. Fe wnaeth hi fy annog i wneud rhywfaint o ymchwil, a gwnaeth hi ychydig o ymchwil i mi, a gwnaethom lunio cynllun. Roedd Lara yn wych.”
O’r fesen fach i’r dderwen
Daeth Lorna o hyd i ychydig o gyrsiau ar sut i baratoi a gorffennu gwlân. Fe wnaeth Lara ei helpu i gyflwyno cais am gyllid ReAct+ a'i chefnogi drwy gydol y broses. Cyn gynted ag y cafodd y cais ei gymeradwyo, dechreuodd Lorna ar ei hyfforddiant. Fe’i helpodd i ddysgu sgiliau newydd a theimlo'n fwy hyderus.
Dywedodd Lorna: “Dysgodd yr hyfforddiant i mi sut i brosesu gwlân yn gywir o’r dechrau i’r diwedd – yn llawer gwell nag y gallwn i ar fy mhen fy hun.
“Rhoddodd gipolwg i mi ar y busnes, a gwnes i fagu hyder wrth roi cynnig ar bethau newydd.”
Dechreuodd Lorna a'i gŵr, sy'n creu cynhyrchion pren, eu busnes o'r enw Molly’s Folly Wool and Woodcraft. Fe'i henwir ar ôl un o'u defaid, yr oeddent yn ei bwydo â photel. Maen nhw nawr yn creu gwefan a thudalen Facebook gyda chymorth gan deulu, ac maen nhw eisiau tyfu eu busnes.
Edrych tua’r dyfodol yn hyderus
Dywedodd Lorna: “Mae’r cymorth wedi rhoi cipolwg i mi ar fyd busnes a’r hyder i roi cynnig ar bethau newydd a rhoi cychwyn da i’r busnes.
“Mae wedi bod yn daith, a’r cam nesaf yw dod o hyd i ffyrdd gwell o brosesu gwlân, efallai hyd yn oed buddsoddi mewn peiriannau.”
Mae Lorna yn dweud wrth bobl eraill sy'n ystyried cychwyn busnes am gael cymorth: “Mae cymorth ar gael os gofynnwch amdano. Roeddwn i mor ddiolchgar am y cyngor a'r ymchwil a wnaeth fy nghynghorydd — fe helpodd i mi greu cynllun a symud ymlaen.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.