Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Dan

Dan, perchennog siop Fightwear, yn gwisgo menig cic-focsio

Dechreuodd Dan wneud crefftau ymladd pan oedd yn chwech oed, a bellach mae ganddo nifer o deitlau byd ac mae’n rhedeg ei frand cicfocsio llwyddiannus ei hun.

Trosglwyddo ei sgiliau

Mae Dan, o Abertawe, yn berchennog ac yn brif gynllunydd ei frand cicfocsio ei hun, Fightwear Store, a sefydlodd yn 2016. Mae’n un o’r brandiau crefftau ymladd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd ac yn gwerthu cynhyrchion i 16 o wledydd gwahanol.

Ar ôl gweld bwlch yn y farchnad am gyfarpar cicfocsio, penderfynodd Dan gyfuno ei gariad at y gamp gyda’i sgiliau dylunio graffeg i lansio’r busnes gwisgoedd ymladd pwrpasol. Derbyniodd gymorth mentora a busnes ar gyfer ei fenter entrepreneuraidd gyntaf gan raglen Syniadau Mawr Cymru.

Heddiw, mae Fightwear Store yn cadw dros 50 steil gwahanol, ac yn gwerthu popeth o fenyg plaen i fenyg i blant, gyda dyluniadau Astro-ofod sy’n addas i bawb.

Esboniodd Dan: “Ro’n i’n cael fy mwlio yn yr ysgol, felly penderfynodd fy nhad fynd â fi i glwb crefftau ymladd. Roedd yn help mawr i mi ddelio gyda’r bwlio a dysgu sgiliau fel disgyblaeth, parch a theyrngarwch. Dwi heb edrych yn ôl ers hynny, ac ro’n i mor frwdfrydig amdano nes mod i am ei droi yn fusnes.

“Dwi wedi gallu trosglwyddo a defnyddio llawer o’r sgiliau a ddysgais mewn crefftau ymladd yn fy musnes. Dyfalbarhad yw un. Doedd gen i ddim dawn naturiol o ran crefftau ymladd felly roedd yn rhaid i mi weithio’n galed i gyrraedd ble rydw i heddiw. Ro’n i’n ymarfer ac ymarfer, yn dal ati ac fe lwyddais i dorri trwodd, ac mae’r un peth yn wir am y busnes.”

Codi nôl ar ei draed

Heddiw, mae Dan yn dal i hyfforddi’n rheolaidd ac yn cystadlu dros ei glwb lleol, Tîm Cymru, a Thîm Prydain.

Mae’n esbonio: “Yn 2007 fe es i fy Mhencampwriaeth y Byd cyntaf yn 10 oed ac fe golles i yn y rownd gyntaf. Es eto yn 2008 ac eto yn 2009 ac ennill arian ac efydd. Yn 2010 enillais fy nheitl byd cyntaf a dwi heb edrych nôl ers hynny. Mae wedi bod yn daith a hanner, ond mae wedi fy ngalluogi i greu busnes o rywbeth rwy’n ei garu hefyd.”

Yn 2019, enillodd Dan dri theitl byd, mewn tri dosbarth pwysau gwahanol ar ôl cael trafferth gyda’i iechyd meddwl.

“Ar ôl blynyddoedd o fynd i Bencampwriaeth y Byd a pheidio ag ennill aur, byddai wedi bod yn hawdd rhoi’r ffidil yn y to, ond wnes i ddim. Fe wnes i edrych arno yn yr hirdymor a phenderfynu dal ati.

“Pan nad yw pethau’n mynd yn iawn, rhaid i ti geisio anghofio amdano, rho gynnig arall arni a dal ati. I unrhyw arall sy’n cael trafferth, fe fydden i’n dweud: Os wyt ti dal yma heddiw, mae modd i ti wella. Mae dal ati’n allweddol a rhaid meddwl sut y gallet ti wella a sut y gallet ti ddychwelyd i’r lle rwyt ti am fod eto.”

Dyfodol cadarnhaol

Mae Dan yn defnyddio ei gyngor da ei hun ar gyfer cadw ffocws yn ei fusnes, a naill ai’n ysgrifennu ei nodau neu’n eu dweud yn uchel bob dydd.

Mae’n esbonio: “Os wyt ti’n atgoffa dy hun bob dydd o’r hyn rwyt ti am ei gyflawni, mae’n dy helpu i gadw ar y trywydd iawn. Mae pobl yn meddwl y gallan nhw wneud mwy nag y gallan nhw mewn blwyddyn, ond yn tanbrisio’r hyn y gallan nhw ei wneud mewn 10 mlynedd.

“Hyd yn oed os nad wyt ti’n siŵr beth wyt ti am ei wneud gyda dy ddyfodol, paid ag ofni gofyn am gymorth! Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn golygu y bydd pawb yng Nghymru yn cael cynnig cymorth i newid eu dyfodol, felly hyd yn oed os nad wyt ti am gychwyn dy fusnes dy hun fel y gwnes i, mae modd i ti gael cyngor ar ennill cymwysterau pellach neu hyfforddiant i dy helpu i fynd cam yn nes at swydd dy freuddwydion, neu dim ond helpu i lunio’r CV perffaith.

“Mae cymorth ar gael bob amser i dy helpu di i gymryd rheolaeth a llywio dy ddyfodol dy hun, waeth beth dy diddordebau.

“Gyda Fightwear Store, fy nod yw gallu cyflenwi llawer iawn o glybiau crefftau ymladd ledled y byd. Dwi am gynyddu ein heffaith a helpu pob clwb crefftau ymladd i fod yn fwy amlwg, drwy foderneiddio eu hiwnifform a’u cyfarpar. Dwi hefyd yn edrych ar sut i wella menyg crefftau ymladd o ran y ffordd maen nhw’n cael eu cynhyrchu; o faint, i’w gwneud yn fwy aerodynameg ac felly’n fwy effeithiol.

“Ochr yn ochr â hynny, dwi’n cyflawni nod arall sydd gen i ac yn dechrau brand ffitrwydd a lles newydd, gyda’r nod o gael pobl i fod yn fwy cadarnhaol a helpu pobl i newid eu ffordd o feddwl. Dwi am i’r brand ddatblygu pobl a chael pobl i deimlo’n fwy gobeithiol ac edrych ar ochr gadarnhaol pethau – gan fod yna lawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch.”

Cyngor Dan ar sut i gadw’n gadarnhaol pan fo pethau’n mynd o chwith:

  • Meddwl am dy nod tymor hir, beth wyt ti eisiau mewn bywyd?
  • Cymryd cam yn ôl, a gofyn i dy hun, “sut galla i ddatrys y sefyllfa?”
  • Dweud wrth dy hun bod modd ei ddatrys – ei ddweud yn uchel os hoffet ti

“Mae’r pethau hyn yn fy helpu i newid fy ffordd o feddwl a bod yn fwy rhagweithiol wrth fynd i’r afael â phroblem.”


Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.