Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Dom

Mae Dom dan hyfforddiant ac yn gwisgo gwisg gwelededd uchel a menig yn didoli cardbord i'w ailgylchu

Cafodd Dom brofiad gwerthfawr drwy ddysgu wrth weithio.

Ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+

O’r diwrnod cyntaf, roedd Dom, o Fwcle, yn gwybod ei fod eisiau gyrfa lle byddai’n cael gwaith ymarferol, ac arweiniodd hyn ato’n cofrestru ar gwrs Mynediad i Adeiladu.

Yn fuan ar ôl dechrau ei astudiaethau, sylweddolodd Dom fod yn well ganddo ochr ymarferol ei gwrs a bod angen cymorth arno i wneud y gorau o'i ddull dysgu. Cafodd ei gyfeirio at Twf Swyddi Cymru+ lle cynigiwyd amserlen bwrpasol iddo i gyd-fynd â’i nodau gyrfa.

Roedd y dull newydd hwn o ddysgu yn berffaith i Dom, a ddaeth yn angerddol am ei waith ac yn fuan ef oedd y cyntaf i gyrraedd ei wersi bob bore.

Dywedodd:

Cafodd ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ effaith gadarnhaol ar unwaith ar fy agwedd at waith a fy ngyrfa.

“Trwy siarad gyda fy nhiwtor, cefais newid meddylfryd llwyr, nid yn unig trwy roi sylw llawn yn fy holl sesiynau, ond hefyd yn edrych yn rhagweithiol am weithgareddau allgyrsiol fel mynychu ysgol 'martial arts' i helpu i hybu fy sgiliau gwaith tîm a fy sgiliau cyfathrebu senarios grŵp.

“Fe wnaethon nhw hefyd fy annog i ailsefyll fy nghymwysterau TGAU Saesneg a Mathemateg lle roeddwn i’n gallu codi fy ngraddau hefyd, a helpodd hynny i roi hwb i’r sgiliau ar fy CV wrth wneud cais am swyddi.”

Mynd i fyd gwaith – cefnogi sero net

Sylweddolodd Dom yn fuan ei fod eisiau mynd i fyd gwaith yn lle mynd i astudiaethau pellach a dechreuodd chwilio am waith gyda chefnogaeth tîm Twf Swyddi Cymru+.

"Dechreuais wneud cais am swyddi yn fy sesiynau cyflogadwyedd, gan gynnwys cyfle gyda chyflogwr lleol o’r enw Thorncliffe Building Supplies.

“Cefais fy ngalw am gyfweliad bron yn syth, ac ar ôl ychydig o baratoi ar gyfer cyfweliad gyda’r tîm yn y coleg, roedd gen i hyder fod gen i’r sgiliau technegol a phersonol ar gyfer y rôl.

“Ychydig ddyddiau wedi hynny, cefais gynnig y swydd a bellach rwy’n gweithio fel Gweithiwr Gwastraff yn y cwmni. Rwy’n caru fy swydd a’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw – mae gen i dîm gwych o’m cwmpas sy’n gwneud i mi fod eisiau dod i’r gwaith yn y boreau.”

Mae Dom hefyd yn helpu i gefnogi nodau sero net Cymru drwy ei waith ailgylchu.

Aeth ati i ddweud: “Fy mhrif rôl o ddydd i ddydd yw didoli gwastraff ailgylchu yn bentyrrau gwahanol gan gynnwys metel, plastig a gwydr.

“Rydym yn ailgylchu cymaint o ddeunydd â phosibl ac yn troi’r hyn sy’n weddill yn adnodd gwerthfawr i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, sy’n helpu i leihau effaith gwastraff ar yr amgylchedd.”

Mae Dom hefyd wedi mwynhau'r manteision eraill o fynd i fyd gwaith.

Parhaodd “Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl wych sydd wedi troi’n ffrindiau, yn ogystal â gallu cynnal fy hun gyda fy nghyflog.

“Mae wir wedi fy helpu i deimlo fy mod i wedi tyfu i fyny ac rwy’n mwynhau’r annibyniaeth y mae gweithio wedi’i rhoi i mi. Mynd ar raglen Twf Swyddi Cymru+ oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud, ac mae’r diolch am hynny yn mynd i'r tîm yn y coleg.

“Cefais drafferth gyda fy sgiliau personol fel meithrin perthnasoedd pan ddechreuais yn y coleg, ond fe wnaeth y tîm cyfan fy nghefnogi trwy hyn gyda'u parch a'u caredigrwydd cyson.

“Es i’n ôl i fy ngholeg yn ddiweddar gyda chardiau unigol i fy nhiwtoriaid ddiolch iddyn nhw am helpu i newid fy mywyd er gwell – allwn i ddim bod wedi gwneud hynny hebddyn nhw.”

Y Camau Nesaf

Mae Dom yn edrych at ei ddyfodol yn barod.

Dywedodd “Rwyf am barhau i wella a symud ymlaen yn fy ngyrfa, a gobeithio y byddaf yn dod yn Weithiwr Peirianyddol neu'n Fancwr yn fuan lle gallaf helpu i arwain y lorïau sy'n cyrraedd y depo, neu adleoli gwastraff o amgylch ein warws.

Mae gan Dom un darn o gyngor i'r rhai sy'n meddwl beth i'w wneud ar ôl gadael yr ysgol:

Os ydych chi'n cael trafferth gwybod beth i'w wneud nesaf, peidiwch â rhoi'r gorau iddi yn rhy gyflym. Dydych chi ddim yn gwybod pa ddyfodol allai fod o'ch blaen chi, gwnewch rywbeth rydych chi'n mwynhau, cadwch eich pen i lawr, a gall pethau rhyfeddol ddigwydd i chi."


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.