Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sero Net a'ch gyrfa chi

Beth mae sero net yn ei olygu i'ch gyrfa a'ch datblygiad sgiliau?

Sero net yng Nghymru yw’r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a faint sy’n cael ei dynnu o’r atmosffer. Bydd pob swydd yn newid i gyrraedd ein nodau sero net.

Rydym am eich helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir a'ch gwneud yn ymwybodol o opsiynau cyflogaeth a hyfforddiant a fydd yn helpu i gefnogi ein targedau sero net. Mae llawer o sefydliadau angen gweithwyr sydd â sgiliau sero net, felly mae'r galw ar gynnydd.

Cysylltwch â ni yn Cymru'n Gweithio i'ch helpu i ddeall eich opsiynau, gan gynnwys:

  • Y math o yrfa rydych chi eisiau
  • Efallai y bydd angen uwchsgilio neu ailhyfforddi arnoch, a chyllid i'w gyflawni
  • Deall sut mae eich swydd yn effeithio ar yr argyfwng hinsawdd
  • Gwybod beth mae diwydiannau’n ei wneud i gwrdd â’r heriau
  • Adnabod swyddi newydd a swyddi sy'n tyfu

Cymorth sydd ar gael

P'un ai ydych chi newydd ddechrau, yn gyflogedig neu'n ddi-waith, mae Cymru'n Gweithio yma i'ch helpu a'ch cefnogi gyda'ch anghenion gyrfa. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.


Uwchsgilio drwy Gyfrif Dysgu Personol Gwyrdd

Mae Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) wedi'u cynllunio i helpu pobl sy'n gweithio i ailhyfforddi neu uwchsgilio mewn ffordd hyblyg.

Mae cynllun Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd newydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyrsiau a chymwysterau hyblyg, yn rhad ac am ddim ond heb unrhyw gap ar faint rydych yn ei ennill. Mae hyn er mwyn annog pobl fel chi i loywi eich sgiliau mewn sectorau penodol fel gweithgynhyrchu, peirianneg, a'r diwydiant ynni.


Archwilio cyfleoedd prentisiaeth

Mae prentisiaethau'n ffordd wych o uwchsgilio trwy ddysgu a gweithio ar yr un pryd.


Uwchsgilio drwy React+

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi'i deilwra er mwyn eich helpu i gael swydd arall cyn gynted â phosibl.

 


Swyddi Dyfodol Cymru

Archwilio swyddi’r dyfodol yng Nghymru. Bydd mwy o ddiwydiannau'n cael eu hychwanegu'n fuan felly daliwch ati i wirio am ddiweddariadau.


Straeon llwyddiant ar draws Cymru

Cymerwch olwg ar rai o'r ffyrdd y mae pobl eisoes yn cael yr addysg a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i gyfrannu at sero net. Mynnwch ysbrydoliaeth i wneud eich penderfyniadau eich hun ar eich llwybr gyrfa yn y dyfodol neu o ran eich cyfleoedd uwchsgilio.

Edrychwch ar astudiaethau achos sgiliau Sero Net ar wefan Llywodraeth Cymru.

 


Datblygiadau pellach

Mae Llywodraeth Cymru yn creu rhagor o adnoddau i'ch cefnogi gan gynnwys:

  • Gweithio'n agos gyda sectorau i ddeall eu llwybr i sero net a beth mae hyn yn ei olygu i sgiliau a swyddi
  • Datblygu cynnwys ar y we i roi enghreifftiau ymarferol i chi, fesul sector, a thynnu sylw at yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i chi

Dolenni defnyddiol

Sgiliau Sero Net Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru


Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.