Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Glenda

Glenda

Bu cyfarfod â chynghorydd gyrfa yn gymorth i Glenda i ddarganfod beth roedd hi eisiau ei wneud a sut gallai ReAct+ ei helpu i'w wireddu.

Chwilio am waith

Er iddi ymgeisio am nifer o swyddi, roedd Glenda yn cael anhawster i gael gwaith.

Roedd ganddi flynyddoedd helaeth o brofiad, a gradd mewn Gweinyddiaeth Busnes yn ogystal â gradd mewn Iaith ond nid oedd yn llwyddo i ddod o hyd i'r cyfleoedd cywir ar ei chyfer.

Dyna pryd y penderfynodd Glenda ddod i Gyrfa Cymru am gymorth.

Hybu ei sgiliau

Cyfarfu â Linda Thomas, cynghorydd gyrfa yn ein canolfan gyrfa yng Nghaerdydd, a chafodd Glenda gymorth i edrych ar ba swydd yr oedd hi wir eisiau ei gwneud a pha gamau y byddai angen iddi eu cymryd tuag at wireddu hynny. Teimlai Glenda ei bod yn cael ei denu at yrfaoedd a oedd yn gysylltiedig â meddygaeth, gan fod ganddi aelodau o'r teulu a oedd eisoes yn gweithio yn y maes hwnnw. Gyda chyfarwyddyd Linda, nododd weinyddiaeth feddygol fel rhywbeth yr oedd am fynd ymlaen i’w wneud.

Dywedodd Glenda, “Cyn i mi weld Linda, doedd gen i ddim syniad. Roedd gen i ddwy radd ond doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i'n teimlo ar goll.

“Roedd y broses adolygu gyrfa yn wych. Roedd yn deimlad mor braf i fod gyda Linda. Roedd hi’n bwyllog iawn ac yn gefnogol”.

Dywedodd Linda y byddai cymhwyster gweinyddol meddygol yn helpu i roi hwb i CV Glenda a chefnogi ei huchelgeisiau. Gyda'i gilydd daethant o hyd i gwrs yn Pitman Training, a gwnaethant gais llwyddiannus am gyllid ReAct+.

Dyfodol addawol

Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant gyda rhagoriaeth, cefnogwyd Glenda gan Linda i wneud cais am rolau gweinyddol meddygol. Roedd hi wrth ei bodd pan gafodd gynnig rôl dros dro o fewn y GIG.

Er bod Glenda bellach wedi gorffen y rôl hon, mae hi wedi cael nifer o gyfweliadau swydd ac yn ddiweddar wedi cael cynnig swydd hirdymor mewn ysbyty lleol.

Dywedodd Glenda, “Mae Gyrfa Cymru yn sefydliad gwych i fynd iddo pan fyddwch chi'n chwilio am swydd. Yn ddi-os fe wnaeth ysgafnu'r baich ac roeddwn yn teimlo rhyddhad mawr ar ôl fy nghyfarfodydd.

“Rydw i bellach yn teimlo’n gyffrous iawn am y dyfodol”.


Archwilio

Adolygiad gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.